'Angen rhoi blaenoriaeth i ailagor amgueddfeydd Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Llandudno's Home Front Museum, in Conwy,Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond y perchennog, Adrian Hughes, sy'n gweithio yn yr amgueddfa hon yn Llandudno

Dylai ailagor amgueddfeydd Cymru fod yn flaenoriaeth pan fydd y cyfyngiadau pellter cymdeithasol yn dechrau cael eu llacio, yn ôl Cymdeithas yr Amgueddfeydd.

Mae cyfarwyddwr y Gymdeithas, Sharon Heal, yn credu y gallai amgueddfeydd llai fod ymhlith yr atyniadau mwyaf diogel i'w hailagor pan fydd yr amser yn iawn.

Dywedodd fod amgueddfeydd yn "addas iawn" i'w hagor gan eu bod yn tueddu i fod â "llwybr penodol" trwy arddangosfeydd ac felly mae'n "gymharol hawdd" sicrhau bod canllawiau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru, fod y sector cyfan dan fygythiad, a byddai'n rhaid i bob amgueddfa addasu er mwyn goroesi wedi i'r cyfyngiadau gael eu codi'n llwyr.

Yn wahanol i'r rhai sy'n dod o dan ymbarél Amgueddfa Genedlaethol Cymru, nid yw amgueddfeydd annibynnol yn derbyn unrhyw grant gan Lywodraeth Cymru ac maen nhw'n dibynnu'n bennaf ar ffioedd mynediad i oroesi.

Dywedodd Mrs Heal y gallai cannoedd o amgueddfeydd bach annibynnol Cymru fynd i'r wal pe byddent yn methu tymor cyfan yr haf.

"Mae saith deg pump y cant o dderbyniadau amgueddfeydd bach yn dod o 12 wythnos o dymor yr haf," meddai Mrs Heal.

"Felly pe byddent yn cael agor yn rhannol am ychydig bach o'r cyfnod hwnnw, fe allai wneud y gwahaniaeth rhwng goroesi neu fethu i lawer ohonyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Bysiau Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Bysiau Abertawe yn wynebu gorfod gwerthu rhai o'u bysiau er mwyn goroesi

Mae Amgueddfa Bysiau Abertawe ymhlith y rhai sy'n bryderus am y dyfodol.

Cyn i'r cyfyngiadau ddod i rym, fe gollodd yr amgueddfa ddwy sioe broffidiol oherwydd stormydd Ionawr a Chwefror.

Dywedodd Ysgrifennydd yr amgueddfa, David Roberts: "Y llynedd, roedden ni'n meddwl bod ganddon ni reolaeth dros bethau, fe wnaethon ni fuddsoddi mewn trwsio nifer o'n bysiau vintage i'w codi i'r safon lle y gallent gael eu rhentu allan ar gyfer priodasau a phroms ac ati.

"Ond, wrth gwrs - yn ogystal â chau'r amgueddfa - mae'r hwch wedi mynd drwy'r siop ar y busnes rhentu hefyd."

Heb gymorth dywedodd y byddai'r amgueddfa'n cael ei gorfodi i werthu bysiau prin am ffracsiwn o'u gwir werth ar y farchnad, a byddai hyd yn oed hynny ddim ond yn atal yr anochel.

Cymorth ariannol

Ychwanegodd Mr Roberts fod ganddo gydymdeimlad â'r credydwyr na sy'n gallu cael eu talu, ac mae am annog Llywodraeth Cymru i amddiffyn y landlordiaid a chyflenwyr elusennau fel ei un e.

Fodd bynnag, mae Mrs Heal yn gefnogol ar y cyfan i'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i amddiffyn y sector.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd cynllun gwerth £18m ei gyhoeddi i gefnogi creadigrwydd diwylliant a chwaraeon, gan gynnwys "cronfa wytnwch" gwerth £1m ar gyfer amgueddfeydd.

Hefyd, nodwyd bod cyfanswm o £325,000 ar gael i sefydliadau annibynnol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru/Marc Atkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Cymru'n rhagweld y bydd rhaid i'r sector arallgyfeirio yn y dyfodol er mwyn goroesi

"Nid wyf yn credu y gallwch chi feio ymateb Llywodraeth Cymru," meddai Ms Heal, "gyda chymaint o flaenoriaethau dybryd ar hyn o bryd. Maen nhw wedi gwneud popeth o fewn eu gallu.

"Serch hynny, bydd cannoedd o amgueddfeydd yng Nghymru yn mynd i'r wal os na allant agor am yr haf cyfan."

Yn y cyfamser, dywedodd Heledd Fychan o Amgueddfa Cymru, fod y sector cyfan dan fygythiad.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i bob amgueddfa addasu er mwyn goroesi mewn byd ôl-coronafeirws.

"Yn amlwg, mae'r amgueddfeydd hynny sy'n derbyn grant Llywodraeth Cymru mewn gwell sefyllfa", meddai Ms Fychan, "ond maen nhw hyd yn oed yn dioddef yn sgil colli incwm o gau siopau, caffis a bwytai.

"Bydd yn rhaid i bob amgueddfa - os ydyn nhw'n ddigon ffodus i oroesi - arallgyfeirio wedyn."