Rhybudd melyn am law a tharanau ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
MapFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map yn dangos ardal y rhybudd melyn ar gyfer dydd Gwener

Mae rhybudd melyn am law trwm a tharanau mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r de a'r de ddwyrain ddydd Gwener.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod perygl y gall ardaloedd weld tywydd garw rhwng 11:00 a 20:00.

O achos y glaw mae perygl y gallai teithiau ar y ffyrdd gael eu heffeithio, ac mae perygl y bydd oedi i drenau ar y cledrau.

Fe allai adeiladau gael eu difrodi a chyflenwadau trydan gael eu heffeithio hefyd.

Roedd rhybudd melyn hefyd mewn grym ar gyfer de Cymru gyfan am law trwm ddydd Iau, hyd at 19:00.