T20: Dim chwarae o gwbl i Forgannwg oherwydd y glaw

  • Cyhoeddwyd
gerddi soffia

Doedd dim chwarae o gwbl yn bosib yn y gêm yn y gystadleuaeth T20 yng Nghaerdydd nos Iau oherwydd y tywydd.

Roedd Morgannwg i fod i groesawu Sir Gaerwrangon ar gyfer gêm gynta'r gystadleuaeth y tymor hwn.

Ond yn dilyn oriau o law trwm, daeth y dyfarnwyr i'r casgliad bod y tir yn rhy wlyb i fedru chwarae'n ddiogel.

Bydd gan Forgannwg ddwy gêm arall yn y gystadleuaeth dros y penwythnos.

Maen nhw'n teithio i wynebu Sir Gaerloyw ddydd Sadwrn, cyn dychwelyd i Erddi Soffia i groesawu'r Birmingham Bears ddydd Sul.