Rhybudd y gwasanaethau brys ar drothwy Gŵyl y Banc

  • Cyhoeddwyd
uned achos brys

Mae gwasanaethau brys Cymru wedi dod ynghyd i erfyn ar bobl i fod yn gall a pheidio â gorddefnyddio'r system ar drothwy Gŵyl y Banc olaf yr haf.

Er bod y gwasanaeth iechyd wedi gweld gostyngiad yn nifer y cleifion arferol yn ystod anterth y pandemig, mae ffigyrau bellach wedi dechrau codi unwaith yn rhagor.

Wrth i bobl benderfynu aros gartref yn hytrach na mynd dramor, mae Heddlu'r Gogledd a'r gwasanaeth iechyd yn galw ar bobl i beidio â chymryd risgiau diangen.

Yn ôl swyddogion, fe all alwadau brys ddyblu ar Ŵyl y Banc - pwysau allai fod yn ormod i weithwyr sy'n parhau i weithio dan gyfyngiadau coronafeirws.

Yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor mae staff y gwasanaeth iechyd yn parhau i weithio mewn amodau anodd.

Un fuodd ynghanol y gwaith i ddiogelu cleifion oedd Eleri Evans, pennaeth nyrsio yn yr uned gofal dwys.

"Dros yr wythnosau diwethaf mae'i 'di bod yn rili brysur yma," meddai.

"Yn enwedig pan mae'r tywydd wedi bod yn boeth 'da ni wedi cael lot o'n cleifion yn dod o Loegr a dwi'n meddwl i ni, y peth pwysicaf ydi os 'da chi'n dod yma ar eich gwyliau… dewch a'ch meddyginiaeth yn barod.

"Y peth cyntaf, defnyddiwch y fferyllfeydd sydd o gwmpas a gwnewch yn siŵr bod chi'n defnyddio eich meddygon teulu."

Disgrifiad o’r llun,

Eleri Evans, pennaeth nyrsio yn yr uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd

Mae 'na rybudd y bydd yn rhaid i unedau brys flaenoriaethu cleifion a gall unigolion aros am gyfnod os nad yw'n fater brys.

Wrth iddi addo tywydd heulog, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn galw ar gleifion i ddefnyddio pob rhan o'r gwasanaeth iechyd fel unedau mân anafiadau, fferyllfeydd a meddygon teulu.

Wrth yrru 40 munud o Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gyfeiriad Porthmadog mae Ysbyty Alltwen yn gorwedd ac yn cynnig cymorth fel unedau mân anafiadau lle mae'r metron dros dro, Emma Jane Owen yn gweithio.

Ei gobaith hi yw gallu dangos i gleifion bod modd derbyn cymorth meddygol tu hwnt i fynd yn syth i'r unedau brys mawr.

Ysgwyddo'r baich

"Dwi'n meddwl bod y culture wedi newid yn y flwyddyn dwytha," meddai.

"'Da ni'n gweld mwy o bobl yn teithio o ardal Caernarfon a Bangor i Alltwen i gael eu trin ac mae hynna'n bwysig."

Gobaith Ms Owen, drwy asesu mwy yn unedau mân anafiadau yw gallu ysgwyddo baich y niferoedd ychwanegol dros benwythnosau prysur.

Fe all unedau fel Alltwen gynnig cymorth ar losgiadau, pigiadau, tor esgyrn a mwy.

Ar draws Cymru bydd parafeddygon hefyd yn gweithio ar y rheng-flaen i geisio cynnig cymorth i gleifion sydd wedi dioddef anafiadau a salwch ond yr un yw eu neges nhw - i fod yn bwyllog a meddwl ddwywaith cyn deialu 999.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r 'activity' wedi codi i lefelau arferol," medd Jonathan Sweet

Yn ôl y rheolwr rhanbarthol ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans, Jonathan Sweet, mae penwythnos Gŵyl y Banc yn her.

"Dros yr wythnosau diwetha' mae'r activity wedi codi i lefelau arferol," meddai.

"Yn ystod mis Awst 'da ni wedi gweld nifer o alwadau sy'n debyg i'r hyn 'da ni'n ei weld ar y flwyddyn newydd.

"'Da ni wedi bod yn delio efo Covid ers mis Mawrth ac mae'r staff yn well-rehearsed wrth ymateb i'r lefel o activity hyn."

Yn ôl Heddlu'r Gogledd, fe fyddan nhw'n defnyddio amryw o dactegau i gadw pobl yn ddiogel gan gynnwys defnyddio dronau i adnabod unrhyw grwpiau sy'n ymgynnull.