'Arhoswch adref ar benwythnos Gŵyl y Banc,' medd yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar ymestyn y cyfyngiadau yn sgil coronafeirws, mae heddluoedd ar draws Cymru yn annog y cyhoedd i lynu at y canllawiau ar benwythnos Gŵyl y Banc.
Mewn datganiad ar ran y pedwar prif gwnstabl, dywedodd Prif Gwnstabl Gogledd Cymru Carl Foulkes: "Ry'n yn gwerthfawrogi nad oedd cyhoeddiad ddydd Gwener yr hyn yr oedd nifer wedi gobeithio amdano - ond mae'n bwysig ein bod yn parhau i lynu at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
"Er yn heriol i ni gyd, mae'r rhan fwyaf wedi aberthu llawer dros y chwe wythnos a hanner ddiwethaf ac mae Llywodraeth Cymru a gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn credu bod yr ymdrechion hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi atal yr haint rhag lledu.
"Er ein bod wedi cael cyngor eu bod yn rhy fuan i godi'r cyfyngiadau, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi rhai newidiadau i'r canllawiau presennol - yn enwedig wrth ymarfer corff.
"Ond mae'n bwysig nodi nad yw'r newidiadau yn dod i rym tan ddydd Llun - ac felly ry'n yn annog ein cymunedau i ddilyn yr un canllawiau dros y penwythnos."
Ychwanegodd: "Mae'r neges yn parhau yn glir - mae'r cyfyngiadau yn parhau mewn grym a'r cyngor i'r cyhoedd yng Nghymru yw Arhoswch Adre, Gwarchodwch y GIG ac Arbedwch Fywydau."
'Peidiwch dadwneud y gwaith da'
Mae'r heddlu yn rhybuddio hefyd y bydd eu presenoldeb yn amlwg gydol penwythnos Gŵyl y Banc ac os bydd angen fe fyddan nhw'n gweithredu os oes rhywun yn mynd yn groes i'r canllawiau.
"Dylai'r cyhoedd gael cysur o'r ffaith ein bod bellach yn paratoi i ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd," meddai Mr Foulkes.
"Mae hwn yn rhywbeth, ry'n ni gyd am ei weld, ond dim ond pan mae'n ddiogel i wneud hynny.
"Y neges felly dros y penwythnos yw arhoswch adref a gall methiant i wneud hynny ddadwneud y gwaith sydd wedi cael ei wneud eisoes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020