Gwadu sïon bod Tŷ Mawr Wybrnant wedi cau'n barhaol

  • Cyhoeddwyd
Ty Mawr WybrnantFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Ty Mawr Wybrnant - man geni'r Esgob William Morgan

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gwadu sïon bod Tŷ Mawr Wybrnant - man geni'r Esgob William Morgan - wedi cau'n barhaol.

Mae'r eiddo hanesyddol yn Nyffryn Conwy, sy'n gartref i gasgliad o feiblau gan gynnwys beibl William Morgan o 1588, wedi bod ar gau ers misoedd oherwydd y pandemig coronafeirws.

Bellach mae'r beiblau wedi eu symud i arddangosfa bwrpasol yn llyfrgell Castell y Waun pan fydd yn ailagor yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ddechrau Awst fe gyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gallai 80 o swyddi gael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig.

'Symud mewn oes newydd'

Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri a Llŷn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth raglen y Post Prynhawn eu bod wedi penderfynu peidio ag ailagor eu preswylfeydd llai fel Plas yn Rhiw, Tŷ Aberconwy, Rhaeadrau Aberdulais a Thŷ Mawr am y tro.

Pwysleisiodd nad oedd bwriad cau Tŷ Mawr Wybrnant yn barhaol: "Yn bell o fod yn ystyried cau y lle - allwn ni ddim bod yn fwy gwrthwynebol i hynny - mae o fwy o sut ydan ni'n symud mewn oes newydd.

"Mae Tŷ Mawr wedi ei gau ar hyn o bryd - dydan ni ddim yn bwriadu ei agor o eleni, ond mae'n siŵr braidd mae beth sydd wedi cythruddo pobl ydy ein bod ni wedi symud y dodrefn a rai o'r beiblau mwyaf pwysig allan er mwyn eu diogelwch a'u cadwraeth nhw.

"A tra dwi'n dweud y dodrefn - nid ein dodrefn ni oedden nhw. Trafod hefo perchnogion y dodrefn nes i er mwyn sicrhau eu diogelwch nhw, a'u penderfyniad nhw oedd sut oedden ni'n mynd i'w trin nhw.

"Mae'r beiblau wedi eu symud i Gastell y Waun i'r llyfrgell godidog yno ddydd Gwener diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dywedodd Mr Edwards fod bwriad dychwelyd y beiblau i'r safle yn y pen draw: "Yn bendant y beiblau... dwi ddim yn siŵr am y dodrefn.

"Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ryw 200-300 mlynedd ar ôl amser William Morgan felly doedden nhw ddim wir yn dehongli beth oedd arwyddocâd beibl 1588 a chyfnod William Morgan.

"Ond mae'r beiblau yn rhan annatod o'r lle.

Beth felly ydy cynllun hirdymor yr ymddiriedolaeth ar gyfer eu safleoedd bach?

Dywedodd Mr Edwards: "Mae ganddo ni gyfle i addasu ychydig bach. Rydan ni yng nghanol ymgynghoriad yn yr ymddiriedolaeth, 'da ni yn gorfod gwneud toriadau eithaf sylweddol - torri tua £100m y flwyddyn yn ein costau gweithredol ni, felly mae 'na impact.

"Ac i ryw raddau mae llefydd fel Tŷ Mawr wedi gorfod mynd ar yr un lein a phroses a rhywle sydd efallai gyda 300,000 o bobl yn ymweld - dim ond 3,000 sydd yn dod i Tŷ Mawr.

"Ac mae o'n arwyddocaol hefyd nad oes 'na ddim gymaint â hynny fel cyfran o Gymry yn dod yno, felly lle i lot o ymwelwyr - mae'n dda eu bod yn dysgu am arwyddocâd y lle ac yn y blaen."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Ymwelwyr yn Nhŷ Mawr Wybrnant cyn y pandemig

Ychwanegodd: "Felly mae 'na gyfle rŵan i ni fod yn trafod dros y misoedd nesaf 'ma, a dwi'n croesawu pobl i ddod i drafod hefo ni sut allwn ni ddatblygu a tynnu'n hunain allan o'r model rydan ni wedi bod ynddo fo a datblygu rhywbeth dipyn bach yn wahanol, sydd yn fwy cyffrous, wedi ei seilio ar bartneriaethau, fel ein bod ni'n gallu gwneud pethau gwahanol, pethau cyffrous, atyniadau gwahanol yna.

"Felly yn bell o fod yn ystyried cau y lle - allwn ni ddim bod yn fwy gwrthwynebol i hynny - mae o fwy o sut ydan ni'n symud mewn oes newydd."