80 o swyddi'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio y gallai 80 o swyddi gael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i bandemig coronafeirws.
Mae'r elusen wedi dechrau ar gyfnod o ymgynghori gyda staff ar ôl rhagweld colledion o tua £200m yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae nifer y diswyddiadau posibl yng Nghymru yn cyfateb i 12% o'r gweithlu, ac yn cyd-fynd â lefel y diswyddiadau posibl ar draws yr elusen.
"Ni'n credu ein bod ni'n edrych i golli tua 80 o swyddi" meddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Rebecca Williams.
"Ry' ni mewn proses ymgynghori i ofyn am adborth a wedyn byddwn ni'n gwneud penderfyniadau o ran toriadau.
Mae'n drist iawn bod rhaid i ni wneud hyn… ond mae'n rhaid i ni safio arian."
Roedd y llynedd yn flwyddyn dda i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Chwyddodd nifer yr aelodau yng Nghymru i 200,000 a llifodd £40m ychwanegol i'r coffrau.
Er gwaethaf y fantolen iach, mae'r Ymddiriedolaeth yn mynnu bod yn rhaid i swyddi fynd.
"Mae'r sefyllfa'n un anodd iawn. Dwi ddim yn meddwl fedrwn ni dan-chwarae'r effaith mae coronafeirws wedi ei gael arnon ni fel corff, does dim arian yn dod mewn", meddai Rebecca Williams.
"Yn anffodus mae'n rhaid i ni wneud newidiadau dwys a newidiadau anodd i'n ffordd ni o weithio.
"Mae'n haelodau ni wedi bod yn ffyddlon iawn ond ni wedi colli rhan bwysig o'n hincwm."
Mae'r Ymddiriedolaeth yn berchen ar dros 50 o safleoedd yng Nghymru, rhai ohonynt yn adeiladau hanesyddol na fydd modd eu hailagor am fisoedd os nad blynyddoedd.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth mae'n rhy gynnar i ddweud pa rai fydd yn cael eu heffeithio.
"Mae'n anodd ateb hynny heb ddeall y goblygiadau i staff," ychwanegodd Rebecca Williams.
"Ry ni'n edrych am adborth ar hyn o bryd ond mae'n rhaid i ni edrych ar bopeth ac mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd yn y tymor byr ar gyfer y dyfodol."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am doriadau ar draws yr elusen fe ddywedodd undeb Prospect y byddan nhw'n gwneud popeth i sicrhau fod y diswyddiadau'n rhai gwirfoddol a bod aelodau sydd yn colli swyddi yn cael bargen deg.
Er nad oes cynlluniau i gau safleoedd cyfan, maen nhw'n poeni mai mater o amser yw hi cyn y bydd hynny'n digwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020