Dyn yn marw wedi i'w feic modur daro wal eiddo
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 26 oed pan wnaeth ei feic modur daro wal mewn lôn gefn yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd ambiwlans awyr ei alw wedi i feic oddi ar y ffordd (off-road) KTM oren daro wal eiddo ym mhentref Tair Gwaith, ger Gwauncaegurwen tua 13:00 ddydd Sul.
Dywed Heddlu De Cymru fod y dyn lleol wedi marw yn y fan a'r lle rhwng Heol Dewi Sant a Brook Terrace.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un all fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad.