Gweithio yn Heathrow: 'Pethau'n newid bob dydd'
- Cyhoeddwyd
Sut brofiad yw gweithio yn un o feysydd maes awyr prysura'r byd ynghanol pandemig gyda'r cyngor teithio yn newid yn gyson?
Mae Rhidian Boobier o Gaerdydd yn rheolwr gwasanaethau yn nherfynfa 2, Heathrow, ac mae wedi arfer bellach â dod i'w waith ddim yn gwybod beth fydd yn newid y diwrnod hwnnw.
"Hyd yn oed cyn Covid-19, doedd dim y fath beth â diwrnod arferol o fewn y maes awyr ond nawr yn sicr mae pethau'n newid bob dydd," meddai wrth siarad gyda Dewi Llwyd ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru.
"Fi'n gyfarwydd nawr â dod i mewn bob diwrnod... a does dim syniad gen i be' mae'r diwrnod yn mynd i fod fel. Ti'n gorfod troi lan a gweld be' sy'n digwydd, a fel tîm mae rhaid inni ddelio gyda nhw."
Gwaith Rhidian a'i dîm yw gwneud yn siŵr fod gwaith y derfynfa yn rhedeg yn llyfn bob dydd, gofalu am y teithwyr a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu mynd ar yr awyrennau a'u bod yn ddiogel, a gweithio gyda'r cwmnïau hedfan yn y derfynfa.
Gyda'r gwledydd sydd ar y rhestrau cwarantin yn newid yn gyson mae'n rhaid iddyn nhw gadw golwg ar y sefyllfa yn barhaus.
Cyn Gŵyl y Banc cawson nhw glywed dros nos bod y Swistir, Gweriniaeth Tsiec a Jamaica wedi eu hychwanegu at y rhestr.
Mae hynny'n gallu golygu bod mwy o hediadau'n dod i mewn wrth i bobl geisio cyrraedd adref cyn y terfyn amser er mwyn osgoi gorfod mynd mewn i cwarantin.
Llai yn teithio
Pa wahaniaeth mae Covid-19 wedi ei wneud i'r maes awyr yn gyffredinol?
"Fel arfer mae gyda ni bedwar terminal ar agor - 2, 3, 4 a 5. Ond yn anffodus gan fod cyn lleied o bobl yn teithio, ni wedi gorfod cau terminals tri a phedwar, dim ond terminals dau a phump sydd ar agor. Ni wedi gorfod symud i gyd o'r cwmnïau awyrennau mewn [yno]."
Mae'n braf, meddai Rhidian, ei bod wedi prysuro oherwydd Gŵyl y Banc ond i gymharu gyda'r llynedd dydy'r niferoedd "ddim unrhyw le'n agos" at yr hyn oedden nhw.
Sut mae'r awyrgylch yno?
"Ar y dechrau roedd pobl yn nerfus iawn ond rydyn ni wedi bod yn gweithio yn galed iawn... i wneud yn siŵr bod y terminal yn lân, mae gyda ni lanweithwyr dwylo yn bob man, mae'r timau glanhau yn glanhau lot mwy nag arfer, mae gyda ni hyd yn oed robots a mae pawb yn gorfod gwisgo masgs.
"Be' ni eisiau ydi cael hyder y teithwyr nôl i adael iddyn nhw wybod ei bod hi yn saff i hedfan.
"Ni'n gweithio yn agos iawn gyda'r cwmnïau awyrennau wedyn unwaith eu bod nhw'n mynd ymlaen i'r awyren, bod nhw'n teimlo yr un peth, bod yr awyren yn lân, popeth wedi cael ei lanhau, pawb yn gwisgo masg.
"So, ni'n gwneud popeth ni'n gallu ei wneud o ran pa mor lân yw'r terminal.
"Yn amlwg mae rhai pethau fel cwarantin, nad oes dim rheolaeth gyda ni [ohono], ni jyst yn gorfod cymryd beth sy'n dod."
Pobl yn 'grac'
Mae 'na densiwn weithiau wrth i bobl fod yn rhwystredig neu'n flin.
"Mae'n hollol naturiol," meddai Rhidian. "Mae na lot o bobl yn nerfus iawn, mae lot o bobl yn hedfan nôl i'r gwledydd maen nhw'n dod ohonyn nhw yn wreiddiol neu'n mynd nôl i weld teulu a maen nhw'n rili bryderus bod nhw'n cael lle ar yr awyren.
"Ond yn anffodus does dim llawer o flights i gael ar y foment ac yn naturiol mae pobl yn gallu mynd dipyn bach yn rhwystredig ond mae rhaid inni ddeall y sefyllfa maen nhw ynddo.
"Yn aml iawn os yw pobl yn grac neu rhwystredig mae nhw jyst eisiau rhywun i siarad gyda yn fwy na dim ac, yn anffodus, os taw ti yw'r person agosaf, falle mai ti fydd y person maen nhw'n grac ac yn rhwystredig gyda. Ond dyw e byth yn ddim byd personol."
Hefyd o ddiddordeb: