Rhuthr adref wrth i fesurau cwarantin newydd ddod i rym
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn dychwelyd i Gymru o Ffrainc a rhai o wledydd eraill Ewrop hunan-ynysu am bythefnos o ddydd Sadwrn ymlaen.
Am 04:00 fore Sadwrn cafodd rhagor o wledydd eu hychwanegu at restr llywodraethau Cymru a'r DU am eu bod wedi gweld cynnydd diweddar yn nifer yr achosion Covid-19.
Yn eu plith mae Ffrainc, yr Iseldiroedd, Malta a dwy o wledydd y Caribi - Aruba a Turks a Caicos.
Mae'r cyhoeddiad wedi arwain at ruthr o bobl yn ceisio cyrraedd yn ôl i Brydain - rhai yn ceisio cyrraedd cyn i'r mesurau ddod i rym ac eraill am sicrhau bod eu plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol wedi pythefnos o hunan-ynysu.
Dywedodd Heulwen Trienekens, sy'n byw yn Utrecht yn yr Iseldiroedd, nad yw'r rheolau newydd yn syndod.
"Mae pobl yn becso mwy a mwy am eu gwledydd eu hunain," meddai.
"Dyw hi ddim yn amlwg bod mwy o achosion - ychydig sydd yn yr ysbyty yma.
"Yn bersonol dyw e ddim yn effeithio llawer arna i fel athrawes, a dwi mor falch fod fy merch a'i chariad wedi dychwelyd i Gaerdydd ddydd Iau.
"Mae'n effeithio mwy ar ffrindiau i fi sy'n berchnogion busnesau."
'Ddim yn syndod'
Mae Hefin Karadog o Bontypridd wedi methu â dychwelyd mewn pryd, ond gan ei fod yn dod 'nôl ddechrau wythnos nesaf bydd yn gallu dychwelyd i'r ysgol fel athro mewn pryd wedi pythefnos o hunan-ynysu.
Un arall oedd yn Ffrainc ar ei gwyliau pan ddaeth y newyddion am y cwarantin oedd Sara Esyllt o adran newyddion BBC Cymru.
"Dwi wedi bod yn lwcus i gael cwch o Dunkirk," meddai.
"Fe drïon ni ddod nôl ar y trên ond doedd hynny ddim yn bosib, roedd sawl un arall wedi cael yr un syniad ac fe fethon ni hefyd gael cwch o Calais.
"Doedd y newyddion ddim yn fy synnu i.
"Ganol yr wythnos ro'n i'n checkio fy ffôn yn gyson am y newyddion diweddaraf ac roedden ni fel teulu wedi penderfynu petai'r cyhoeddiad yn dod y byddwn yn ceisio dychwelyd fel bod y plant yn gallu dychwelyd i'r ysgol ddechrau tymor."
Yn ôl Brian Williams sydd wedi treulio 40 mlynedd yn y diwydiant trefnu gwyliau, mae'r cwarantin yn ergyd bellach i gwmnïau.
"Yn yr hir dymor dwi'n sicr y bydd pethau yn gwella, ond yn y tymor byr mae'n ergyd fawr," meddai.
"Mae nifer o gwmnïau yn gorfod diswyddo pobl ar hyn o bryd - gan gynnwys y cwmni yr arferwn i weithio iddyn nhw.
"Maen nhw wedi gorfod cael gwared ar oddeutu traean o'r staff."
'Fferi olaf o Calais yn llawn'
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Sadwrn, dywedodd Eurig Thomas o Nantgarw ei fod wedi dychwelyd o barti teuluol yn Llydaw ar y "fferi ola' mas o Calais" yn oriau mân bore Sadwrn.
"Oedd y fferi'n llawn. Ni wedi gorfo' ciwio i fynd arno, oedd tipyn o aros ond i fod yn deg oedd hwyliau pawb yn iawn ac oedden nhw'n drefnus iawn," meddai.
Dywedodd ei bod yn anodd cadw pellter cymdeithasol ar y llong gan ei bod mor llawn, ond bod pawb yn gwisgo mygydau.
"Ar y ffordd mas oedd digon o le, dwi'n credu eu bod nhw wedi lleihau y lle o ran gwahanu cymdeithasol, so oedd hi dipyn bach mwy ar ben ei gilydd, ond pawb yn gwisgo masks."
Dywedodd hefyd fod "drwgdeimlad" yn Ffrainc ynglŷn â'r ffordd roedd y newid yn y rheolau wedi eu cyflwyno.
"Be welsoch chi yn Calais oedd torfeydd mawr a pobl yn agos at ei gilydd, yn hytrach na tase pobl wedi mynd yn ôl yn ara' deg, a bydde fe wedi gwneud lot o wahaniaeth i nifer yr heintiau oedd wedi dod mewn," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2020