Ben Cabango a'r profiad 'swreal' o ymarfer â Bale a sêr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae amddiffynnwr Abertawe Ben Cabango yn dweud ei fod e'n mwynhau'r profiad "swreal" o ymarfer efo sêr megis Gareth Bale ar ôl cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf.
Roedd Cabango ymhlith yr enwau newydd yng ngharfan Ryan Giggs ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn y Ffindir a Bwlgaria yr wythnos hon.
Ar ôl treulio ei blentyndod yn gwylio ac edmygu Bale, nawr mae'r gŵr 20 oed yn rhan o'r un tîm ag ymosodwr Real Madrid.
"Mae'n teimlo'n really dda i gael fy ngalw mewn i'r garfan am y tro cyntaf. Mae e wastad wedi bod yn freuddwyd i fi," meddai Cabango.
"Mae'n swreal i chwarae 'efo Gareth Bale, a fi'n mwynhau'r profiad a thrio ffitio mewn i'r garfan.
"Dyw Kieffer Moore ddim yn hwyl i farcio - mae e'n gorfforol iawn a wastad yn defnyddio ei benelin!"
Er bod Cabango wedi dal sylw efo'i berfformiadau i Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf, o Gaerdydd mae'r chwaraewr ifanc yn enedigol.
Aeth Cabango i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac fe chwaraeodd rygbi i dîm ysgolion Caerdydd cyn iddo ganolbwyntio ar bêl-droed.
Mae ei frawd iau Theo wedi penderfynu canolbwyntio ar rygbi, ac mae'n rhan o garfan ieuenctid Gleision Caerdydd.
Mae rhieni'r brodyr, eu tad Paulo a'u mam Alysia, yn falch iawn o'u meibion, ac yn eu hatgoffa o'r ffaith yn aml ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.
"Maen nhw wastad ar Twitter," meddai Cabango.
"Mae Theo yn chwarae i Gleision Caerdydd ac mae mam a dad yn really falch, a wastad yn sôn am ni'n dau ar Twitter!
"Base fe'n crazy i gael cyfle i chwarae dros Gymru. Gobeithio os byddai'n chwarae, byddai'n chwarae'n dda.
"Ma'r teulu i gyd yn falch iawn. Piti bydden nhw methu bod yna [ni fydd cefnogwyr yn y stadiwm oherwydd y coronafeirws] ond bydd e dal yn sbesial iawn."
'Diolchgar i TNS'
Byddai ennill ei gap gyntaf yn y Ffindir nos Iau neu yn erbyn Bwlgaria yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul yn dipyn o gamp i Cabango.
Dim ond yn 2019 roedd yr amddiffynnwr ar fenthyg hefo'r Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru a dim ond yn Awst y llynedd daeth ei ymddangosiad cyntaf dros Abertawe.
Ers hynny, mae Cabango wedi datblygu i fod yn amddiffynnwr canol aeddfed, cryf sydd wedi dangos ei fod e'n gallu ymdopi a chwarae yn gyson yn y Bencampwriaeth.
"Roedd chwarae 'efo'r Seintiau Newydd yn help mawr", meddai Cabango.
"Dwi'n dweud wrth bawb cymaint ma' hwnna wedi helpu fi i fod lle ydw i heddiw. Fi'n really ddiolchgar i TNS."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020
- Cyhoeddwyd25 Awst 2020