Achub cannoedd o anifeiliaid oedd mewn 'amodau truenus'

  • Cyhoeddwyd
Ceffyl mewn stablFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr anifeiliaid mewn "cyflwr gwael" meddai'r heddlu

Mae cannoedd o anifeiliaid a gafodd eu cadw mewn "amodau truenus" wedi eu hachub yng Ngwynedd.

Cafodd 91 o geffylau a dros 100 o ieir a chwningod eu cymryd o ardal Pwllheli ddydd Mawrth, meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd yn rhaid rhoi dau geffyl i gysgu. Roedd un wedi torri ei goes pan oedd yn ebol, ond yn ôl yr heddlu doedd yr anaf ddim wedi cael ei drin yn iawn ac roedd y ceffyl yn gloff drwy gydol ei oes.

Roedd yr ail geffyl yn hollol ddall.

Yn ogystal â'r ceffylau, cafodd 122 o ddofednod a thair cwningen eu hachub.

'Diwrnod hollol ofnadwy'

Dywedodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad yr heddlu eu bod wedi cael rhybudd gan aelod o'r cyhoedd, a'u bod wedi treulio wythnos yn paratoi eu hymateb.

Roedd angen ymateb yn gyflym er lles yr anifeiliaid ond roedd hefyd angen trefnu cludiant ar gyfer bron i 100 o geffylau o'r safle, meddai'r heddlu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Dywedodd Sarjant Rob Taylor fod pob achos o greulondeb yn ofnadwy.

"Ond roedd hwn ar raddfa uchel oherwydd y nifer o anifeiliaid," meddai.

"Treuliodd cydweithwyr o'r heddlu a'r RSPCA dros 12 awr ar y safle ddydd Mawrth, a bydd yr ymchwiliad yn parhau."

Cafodd dynes ei harestio ar y safle yn ystod cyrch yr heddlu, ond mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd y Sarjant Taylor fod y diwrnod wedi bod yn un "ofnadwy".

"Diwrnod hollol ofnadwy i'r tîm cyfan ac fe fydd yna achos yn erbyn y person sydd yn gyfrifol," meddai.