Symud gweddillion trên disel wedi tân Llangennech
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith wedi dechrau o godi gweddillion trên aeth oddi ar y cledrau yn Sir Gâr wrth gludo hyd at 750 tunnell o ddisel.
Bu'n rhaid i hyd at 300 o bobl leol adael eu cartrefi nos Fercher diwethaf yn dilyn y ddamwain ger Llangennech.
Mae disgwyl i'r gwaith glirio gymryd hyd at dri diwrnod, gyda phob un o'r wageni gwag yn pwyso hyd at 30 tunnell.
Roedd gweithwyr Network Rail ar y safle ddydd Mercher gan ddefnyddio craen sydd â'r gallu i gludo 125 o dunelli.
Roedd y trên yn cludo cargo o danwydd disel modur ag olew nwy o Aberdaugleddau i Theale yng ngorllewin Sir Berkshire pan ddaeth oddi ar y rheilffordd.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i asesu'r difrod amgylcheddol i'r ardal.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 23:20 ar 26 Awst.
Pan ddaeth y rhybudd gwreiddiol cafodd 14 pwmp, a thendr ewynnu (foam tender) eu hanfon i'r safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020