Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro i adael ei swydd
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Ian Westley, ei fod yn bwriadu gadael ei swydd ym mis Tachwedd.
Cafodd Mr Westley, 60, ei benodi'n brif weithredwr ym mis Gorffennaf 2015 ar ôl gweithio i'r cyngor mewn sawl rôl ers 2003.
Fel rhan o setliad ariannol wrth iddo adael y swydd, fe fydd Mr Westley yn derbyn £95,000 gan yr awdurdod.
Yn beiriannydd siartredig, mae Mr Westley wedi bod yn gweithio mewn llywodraeth leol ers 38 mlynedd.
Yn wreiddiol o Gasnewydd, bu'n gweithio i Gyngor Sir Gwent, Cyngor Sir a Bwrdeisdref Casnewydd, a Chynghorau Sir a Dinesig Abertawe.
Dywedodd fod gweithio i Gyngor Sir Penfro am 17 mlynedd wedi rhoi boddhad iddo, a'i bod yn fraint gorffen ei gyfnod gyda'r awdurdod fel prif weithredwr.
"Rwyf wedi cael boddhad mawr o ddatblygu perthynas bositif gyda chymunedau, busnesau a phartneriaid ar draws y sir a rhanbarth gorllewin Cymru," meddai.
"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chydweithwyr mor ymroddedig yn Sir Benfro."
Roedd y pum mis diwethaf wedi gosod heriau sylweddol i'r cyngor, meddai, ond wedi dod drwy'r storm, roedd "yr amser yn iawn i symud ymlaen a gadael i arweinyddiaeth newydd adeiladu ar y seiliau cadarn sydd mewn lle".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2015