Pryder am effeithiau disel yn ardal Afon Llwchwr
- Cyhoeddwyd
Mae helwyr cocos ar gilfach Tywyn yn poeni am effeithiau hir dymor niwed amgylcheddol ar ôl i ddisel oedd yn cael ei gludo ar drên aeth oddi ar y cledrau lifo i Afon Llwchwr.
Cafodd gwelyau cocos yr ardal eu cau yn dilyn cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar ôl i 10 o wagenni dod oddi ar y cledrau ger Llangennech, Sir Caerfyrddin.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae yna dystiolaeth o ddisel ar nifer o safleoedd ar hyd Afon Llwchwr gan gadarnhau y bydd yna "effeithiau hir dymor".
Yn ôl Robert Griffiths, heliwr cocos, mae'n gyfnod pryderus iawn i'r diwydiant.
"Does yna ddim gwaith ac felly dim tâl a 'da ni ddim ag arian i dalu morgeisi a phethau fel 'na," meddai.
"Dim ond aros allwn ni, ond i nifer 'da ni'n gwybod dim byd arall.
"Dwi wedi gwneud hyn am 40 mlynedd, dyna'r cyfan dwi wedi ei wneud erioed."
Doedd dim modd i CNC ystyried y niwed amgylcheddol tan i'r tân gael ei diffodd ar ôl 33 awr o waith gan y gwasanaethau brys.
Dywedodd CNC bod maint "sylweddol" o ddisel wedi gollwng, gydag ychydig wedi mynd i Afon Llwchwr.
Fe ddaeth y trên oddi ar y traciau yn agos at aber Afon Llwchwr, sy'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin.
Mae pryder y gallai'r digwyddiad gael effaith ar bobl sy'n dibynnu ar yr ardal am eu bywoliaeth, fel helwyr cocos.
Yn ôl Ioan Williams o CNC bydd timau arbenigol yn parhau i asesu'r llygredd dros yr wythnosau nesaf.
"Ni'n cario malen gyda monitro 'ma," meddai.
"Ni'n gweithio gydag arbenigwyr mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd gydag arbenigwyr arall, gyda Chyngor Abertawe a Chyngor Caerfyrddin i gael nhw i helpu ni weld beth fydd yr effaith tymor hir.
"Ni lan heddiw ym Machynys - rhyw 10 cilomedr o ble ddigwyddodd i'r trên adael y cledrau - yn ffodus heddiw does dim tystiolaeth [o ddisel] yn y fan hyn.
"Ymhellach lan wrth Pont Llwchwr, mae pethau bach yn wahanol. Mae 'na effaith di bod fan yna, gallwn ni weld olew ar wyneb y dŵr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020
- Cyhoeddwyd27 Awst 2020