Twristiaid yn anhapus am newid 'sydyn' i'r rheolau ynysu
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr fydd yn gorfod hunan-ynysu am bythefnos ar ôl dychwelyd o'u gwyliau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am newid y rheolau gyda chyn lleied o rybudd.
O fore Gwener ymlaen mae'n rhaid i deithwyr o Bortiwgal a rhai o ynysoedd Groeg hunan-ynysu am bythefnos ar ôl dychwelyd i Gymru.
Mae Gibraltar a Polynesia Ffrengig hefyd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr sy'n rhaid hunan-ynysu ar ôl ymweld â nhw.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru osod cyfreithiau gwahanol i rai Llywodraeth y DU ynglŷn â hunan-ynysu.
Mae'r rheol mewn grym i bobl sy'n dychwelyd i Gymru, dim ots os wnaethon nhw wneud hynny trwy ran arall o'r DU, fel meysydd awyr yn Lloegr.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps ddydd Iau na fydd newidiadau o'r fath yn cael eu gwneud dros y ffin.
'Effaith ariannol ac ymarferol'
Mae Gareth Francis o bentref Beddau yn Rhondda Cynon Taf, sydd ar wyliau yn Faro, Portiwgal, yn beirniadu'r penderfyniad i newid y rheolau mor sydyn, yn hytrach na rhoi mwy o amser i bobl ddychwelyd adref ac osgoi bod angen hunan-ynysu.
"Y siom fawr i mi ydy, dros y bum wythnos ddiwethaf mae pobl wedi cael tan 04:00 ar y dydd Sadwrn canlynol i gyrraedd 'nôl heb orfod ynysu," meddai.
"Bydd yn cael effaith ariannol ac ymarferol. Rydw i am golli pythefnos o waith, ac mae fy ngwraig am fethu bron i wythnos o waith."
Dywedodd Mike, o Rhuthun, sydd hefyd ar wyliau yn ardal yr Algarve, nad oes angen gosod un rheol ar gyfer Portiwgal gyfan pan fo rhai ardaloedd wedi'u heffeithio'n waeth na'i gilydd.
"Rydw i'n ddig iawn am y peth," meddai.
"Roedden ni'n gwerthfawrogi pan wnaethon ni'r penderfyniad i ddod yma y gallai pethau newid ar unrhyw adeg, ond ar y pryd roedd mwy o farwolaethau yn Sir Ddinbych na Portiwgal gyfan, felly dyna pam wnaethon ni'r penderfyniad i ddod allan yma.
"Rydw i wedi gyrru ebost at Vaughan Gething yn gofyn a oes rhywun wedi bod allan yn yr Algarve i weld beth sy'n digwydd yma.
"Mae'r achosion yn yr Algarve yn isel iawn."
'Dim opsiwn arall'
Yn siarad ar raglen Today y BBC fore Gwener dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail cyngor gan y Gydganolfan Bioddiogelwch (JBC).
Ychwanegodd bod dros 30 o achosion positif wedi cael eu mewnforio i Gymru ar bedwar hediad gwahanol yr wythnos ddiwethaf.
"Wrth weld y twf cynyddol o achosion yn dod mewn o'r ynysoedd hynny [yng Ngroeg], ein profiad uniongyrchol yng Nghymru a chyngor clir iawn am y risg cynyddol i iechyd cyhoeddus y DU gan y JBC, doeddwn i ddim yn teimlo bod unrhyw opsiwn arall oni bai am weithredu," meddai.
"Nid fy lle i ydy egluro pam bod eraill heb wneud hynny, ond rwy'n hyderus iawn ein bod yn dilyn y cyngor a chadw Cymru'n ddiogel."
Mae Mr Shapps wedi dadlau bod y gwahaniaethau rhwng rheolau hunan-ynysu yng ngwahanol wledydd y DU yn "achosi dryswch" i bobl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020