Bosnia–Herzegovina dan-21 1-0 Cymru dan-21

  • Cyhoeddwyd
Paul BodinFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Paul Bodin yw rheolwr Cymru dan-21 ers Awst 2019

Mae gobeithion tîm pêl-droed dan-21 Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2021 wedi cael ergyd wrth iddyn nhw golli oddi cartref yn erbyn Bosnia Hercegovina ddydd Gwener.

Doedd tîm Paul Bodin heb chwarae ers iddyn nhw guro'r un gwrthwynebwyr yn Wrecsam 10 mis yn ôl.

Roedd yr hanner cyntaf yn weddol gyfartal gyda chyfleoedd i'r ddau dîm, ond roedd hi'n stori wahanol wedi'r egwyl.

Cymru greodd y cyfleoedd gorau yn yr ail hanner, ond yn erbyn llif y chwarae fe sgoriodd Ševkija Resić wedi 75 munud.

Daeth Cymru â'u pum eilydd i'r maes yn fuan wedyn er mwyn ceisio achub y gêm, ond er i Luke Jephcott ddod yn agos yn hwyr yn y gêm ni lwyddodd Cymru i sgorio.

Maen nhw bellach wedi chwarae pum gêm yn eu grŵp, gan ennill dwy (Gwlad Belg a Bosnia adre) a cholli tair (Yr Almaen, Moldofa a Bosnia oddi cartref).