Cyflwynydd radio yn gwadu ymosod yn anweddus
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd radio wedi ymddangos mewn llys i wynebu dau gyhuddiad hanesyddol o ymosod yn anweddus.
Mae Kevin Johns yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed yn yr 80au cynnar.
Fe blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener.
Mae Mr Johns, sydd yn 59 oed ac yn dod o Gorseinon, yn cyflwyno rhaglen frecwast ar orsaf Sain Abertawe, ac mae hefyd wedi gweithio fel cyhoeddwr stadiwm ar gyfer Clwb Pêl-droed Abertawe.
Fe dderbyniodd MBE yn 2013 am ei waith elusennol.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd dyddiad yr achos yn ei erbyn yn cael ei bennu mewn gwrandawiad diweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Bauer Media, sydd yn berchen ar Sain Abertawe: "Rydym wedi cytuno gyda Kevin Johns y bydd yn cymryd cyfnod i ffwrdd o'i ddyletswyddau cyflwyno er mwyn iddo gael amser i ganolbwyntio'n llawn ar ymchwiliad yr heddlu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020