Cwpan y Gynghrair: Northampton 3-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Caerdydd yn mynd ymhellach yng Nghwpan y Gynghrair wedi iddyn nhw gael eu trechu'n gyfforddus gan dîm o gynghrair is yn Northampton.
Aeth y tîm o Adran Un ar y blaen wedi hanner awr, gyda Harry Smith yn sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Jordi Osei-Tutu ar Joseph Mills yn y cwrt cosbi.
Llwyddodd y tîm cartref i ddyblu eu mantais ar ddechrau'r ail hanner wrth i Matt Warburton rwydo heibio i golwr yr Adar Gleision, Alex Smithies.
Aeth diwrnod Caerdydd o ddrwg i waeth wedi awr o chwarae, gyda Ryan Watson yn sgorio trydedd gôl i Northampton, gan olygu mai eu henw nhw fydd yn yr het ar gyfer yr ail rownd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2020