Dosbarth i hunan-ynysu yn dilyn prawf positif staff

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd St GwladysFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Gynradd St Gwladys yn aros ar agor er y prawf positif

Mae dosbarth o 21 o ddisgyblion yn Sir Caerffili wedi cael cais i hunan-ynysu am bythefnos ar ôl i aelod o staff gael prawf positif am coronafeirws.

Bydd y disgyblion yn Ysgol Gynradd St Gwladys yn nhref Bargod yn gorfod aros adref am 14 diwrnod, ond bydd gweddill yr ysgol yn parhau ar agor.

"Ry'n ni'n gwerthfawrogi y bydd hyn yn achosi pryder i rieni a phlant yr ysgol," meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerffili.

Dywedodd y cyngor bod rhieni'r plant wedi cael eu hysbysu a'u bod yn gweithio gyda'r system olrhain er mwyn gwarchod disgyblion eraill a'r gymuned ehangach.

'Mesurau diogelwch yn eu lle'

"Gallwn gadarnhau bod aelod o staff yn yr ysgol wedi cael prawf positif am coronafeirws," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Ry'n ni wedi cytuno, yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, y bydd angen i 21 o ddisgyblion o un dosbarth hynan-ynysu am 14 diwrnod.

"Mae'n bwysig nodi bod yr holl fesurau diogelwch yn eu lle trwy'r ysgol a'u bod yn cael eu dilyn yn llym er mwyn atal yr haint rhag gwasgaru.

"Mae'r ysgol yn parhau ar agor ac nid oes angen i unrhyw blentyn arall hunan-ynysu, gadw i ffwrdd o'r ysgol na chael eu profi oni bai eu bod yn datblygu symptomau Covid-19."

98 o achosion newydd

Daw'r cyhoeddiad wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod 98 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yn y 24 awr ddiwethaf - y nifer fwyaf ers rhai misoedd.

Roedd 25 o'r rheiny yn Sir Caerffili a 23 yn Rhondda Cynon Taf.

Mae mwy o achosion coronafeirws wedi cael eu cofnodi yn Sir Caerffili yn yr wythnos ddiwethaf na'r un sir arall yng Nghymru.

Fe wnaeth canolfan brawf dros dro agor tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili ddydd Sadwrn er mwyn i bobl sydd â symptomau gael eu profi.

Ddydd Gwener daeth i'r amlwg bod pedwar aelod o staff mewn ysgolion yn y de - dau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, un yn Nhorfaen ac un yn Sir Gâr - wedi derbyn canlyniadau positif am Covid-19.