Covid-19: 130 achos newydd ac 20 ysgol wedi eu heffeithio

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Mae cynnydd mawr wedi bod unwaith eto yn nifer yr achosion o coronafeirws yng Nghymru.

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun yn dangos bod 133 o achosion newydd o Covid-19, er nad oes unrhyw farwolaeth ychwanegol wedi'u cofnodi.

Mae'r BBC wedi cael gwybod am o leiaf 20 o ysgolion sydd wedi cael profion positif ar gyfer Covid-19 ymysg disgyblion a staff.

Nos Lun, daeth cadarnhad y bydd yn rhaid i 200 o ddisgyblion blwyddyn 7 - a thri aelod o staff - yn Ysgol Gyfun Bryntirion, Pen-y-bont hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i berson a allai fod wedi dod i gyswllt â'r disgyblion gael prawf positif.

Bellach mae 18,514 achos o coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Roedd yr ystadegau dros y penwythnos hefyd yn dangos mwy o achosion, gyda'r cynnydd dros y ddau ddiwrnod diwethaf y mwyaf yng Nghymru ers mis Mehefin.

Daeth nifer o'r achosion newydd o Gaerffili - dros 100 yn yr wythnos ddiwethaf.

Bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn Sir Caerffili ddydd Mawrth mewn ymateb i'r cynnydd.

Dywedodd Phillipa Marsden, arweinydd Cyngor Caerffili y byddai yn ystyried cau clybiau a bariau hefyd os nad yw rheolau pellter cymdeithasol yn cael eu cadw.

Ysgol Bro EdernFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd disgyblion blwyddyn 7 yn Ysgol Bro Edern wybod ddydd Sul y byddai angen iddyn nhw hunan-ynysu

Mae cynnydd mawr hefyd wedi bod yn Rhondda Cynon Taf gydag 20 newydd wedi'u cofnodi ddydd Llun.

Mae o leiaf 20 o ysgolion sydd wedi gweld profion positif ar gyfer Covid-19 ymysg disgyblion a staff, gyda'r niferoedd uchaf yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.

Yn Sir Caerffili mae disgyblion mewn un dosbarth yn Ysgol Gynradd St Gwladys wedi cael gwybod bod angen iddyn nhw aros adref ar ôl i aelod o staff gael prawf Covid-19 positif.

Mae'n rhaid i 30 o ddisgyblion hunan-ynysu yn Ysgol Uwchradd Bro Edern yng Nghaerdydd, ac mae disgyblion yn Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam wedi eu hanfon adref ar ôl i athro gael prawf positif. Y bwriad yw ailagor yr ysgol ddydd Mercher.

Yn Ysgol Uwchradd Friars, Bangor, mae aelod o staff y gegin wedi cael y feirws. Dyw'r ysgol heb gau ond mae'r ffreutur wedi gwneud dros dro a'r staff eraill yn y gegin wedi cael cyngor i aros adref.

Mae achosion o'r feirws hefyd wedi bod mewn ysgolion yn siroedd Torfaen, Castell-Nedd Port Talbot a Sir Gâr.

line break

Pryderon am yr ifanc

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bryderon am nifer y bobl ifanc sydd yn cael profion positif.

  • 14% o'r rhai sydd yn cael eu profi yn eu 20au yng Nghymru.

  • Bron 28% o bobl ifanc yn eu 20au a 30au yn cael prawf positif ar gyfer y feirws.

  • Ddim yn trosglwyddo i achosion mewn ysbytai. Bach iawn yw'r ffigwr ar gyfer yr oedran yma mewn ysbytai-5.5% ar gyfer pobl yn eu 20au a 30au.

  • Dwy draean dros 70 oed.

line break

Mae Cyngor Sir Gâr yn apelio ar bobl i gadw at y rheolau yn dilyn clwstwr o achosion yn deillio o noson gymdeithasol yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach.

Dywedodd y cyngor bod y digwyddiad yn mynd yn groes i reolau, a bod 12 o bobl sy'n gysylltiedig wedi cael prawf positif hyd yn hyn.

Bydd rhaid i unrhyw un oedd yn y digwyddiad hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Daw ar ôl i fideo ymddangos yn dangos torfeydd yn ciwio tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ian Cottrell, wnaeth recordio'r fideo, ei fod "wedi synnu" at y diffyg cadw pellter tu allan i Coyote Ugly ar Heol Eglwys Fair.

Coyote UglyFfynhonnell y llun, Ian Cottrell
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Caerdydd dros y penwythnos mai cyfrifoldeb y busnes yw sicrhau bod pobl yn cadw pellter tra'n ciwio i gael mynediad

Mae'r clwb nos yn dweud eu bod wedi cadw at y rheolau Covid a bod torfeydd mawr heb gael mynediad i'r clwb.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y gallent gau'r safle oni bai bod yna welliannau.

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb.

"Fe wnes i weld y fideo ac roeddwn i yn bryderus iawn," meddai wrth BBC Radio Wales.

"Mae'n siomedig bod pobl yn ymgynnull mewn niferoedd mawr heb unrhyw ystyriaeth i gadw pellter cymdeithasol."

Ychwanegodd: "Mae'n ymwneud gyda phobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb unigol ac ar y cyd. Mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan."