Cerddwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad lori yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Safle'r gwrthdrawiad ger archfarchnad TescoFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger archfarchnad Tesco ar Stryd Wellington

Mae cerddwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori yn Abertawe nos Lun.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 20:05 ar Stryd Wellington ger archfarchnad Tesco.

Cafodd y cerddwr - dyn lleol 56 oed - ei gludo i Ysbyty Treforys ond bu farw o'i anafiadau.

Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cymorth i'w deulu.

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth neu luniau gan unrhyw un all fod wedi gweld y cerddwr neu'r lori yn y cyfnod hyd at y gwrthdrawiad.