Technoleg o Gymru i buro dŵr yfed i bobl yn Bangladesh
- Cyhoeddwyd
Mae offer puro dŵr yn cael ei gludo o Sir Gâr i dde Bangladesh y penwythnos yma yn y gobaith o allu cyflenwi dŵr glan ar gyfer cannoedd o drigolion o fewn wythnosau.
Ar hyn o bryd mae 2,000 o bobl yn nhref Morrelganj yn gorfod defnyddio dŵr llygredig o gamlas leol.
Dywed y cwmni technoleg dŵr, Hydro Industries, fod yr offer sy'n cael ei ddanfon i dde Asia yn arloesi trwy dynnu difwynyddion (pollutants) mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn ariannol.
Mae hefyd yn helpu cynnal amrywiaeth o swyddi cynhyrchu a chyfleoedd i raddedigion yn Llangennech, ger Llanelli, yn ôl prif weithredwr y cwmni, Wayne Preece.
Ychwanegodd: "Mae hefyd yn golygu dyfodol diogel ac yn bwysicach oll, dŵr yfed i'r rheiny sydd wirioneddol ei angen fwyaf.
'Potensial i wasanaethu miliynau o bobl'
"Y math yma o offer yw'r lefel nesaf o ran cynhyrchu dŵr yfed o safon Sefydliad Iechyd y Byd, gan symud ymlaen o, dyweder, pwmpio dŵr â llaw - mae'r rhain yn trin y dŵr."
Sicrhau fod pobl leol yn gallu defnyddio'r offer yn gywir yw'r nod yn y lle cyntaf, cyn danfon hyd at 10 peiriant yn rhagor erbyn y gwanwyn i wasanaethu 20,000 o bobl.
Dywed y cwmni fod potensial yn y pen draw "i wasanaethu miliynau o bobl ar draws Bangladesh ac ardaloedd eraill yn India a Nepal ble mae ffynonellau dŵr wedi'u llygru'n ddifrifol.
"Bydd un blwch yn gwasanaethu rhwng 2,000 a 2,500 po bobl," meddai Mr Preece. "Gallen ni ei roi ymlaen mewn mater o wythnosau.
"Bydd yn darparu rhwng 40,000 a 50,000 o litrau o ddŵr bob diwrnod, sy'n oddeutu 18m o litrau o ddŵr yfed glan bob blwyddyn.
"Ac yn bwysicach fyth, mae'n ddŵr y bydden ni'n rhoi i'n plant. Mae'n ddiogel ac yn cael ei fonitro, ac mae'n dechnoleg syml, gynaliadwy sy'n defnyddio prin ddim cemegau... mae'n dda hefyd i'r amgylchedd."
Mae Hydro Industries yn cydweithio â sefydliad BRAC yn Bangladesh sy'n ceisio sicrhau gwelliannau economaidd trwy raglenni iechyd ac addysg
Dywed rheolwyr BRAC fod yna "gynlluniau mawr all wasanaethu 4,000 i 5,000 o aelwydydd... ac os wnawn ni lwyddo i osod yr offer, hoffwn ehangu hyn i lawer o lefydd eraill".
Yn ôl Hydro Industries, bu farw dros 80 o bobl mewn llifogydd yn Bangladesh haf eleni yn unig, ac mai'r "realiti creulon yw bod wlad fach, ond boblog iawn, yn dioddef llifogydd cyson ac eto'n gyson brin o ddŵr glan".
Ymwelodd un o fferyllwyr y cwmni, Lewys Isaac, â Bangladesh yn ddiweddar.
Dywedodd fod yna "farwolaethau diangen, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc" yno a bod y cwmni'n "gobeithio gwneud rhywbeth ynghylch hynny".
Ychwanegodd eu bod "nid yn unig yn gallu tynnu gronynnau o'r dŵr, ond yn gwneud hynny ar raddfa sy'n ein galluogi i ddod â'r dŵr i'r bobl.
"Mae'r dechnoleg yma'n glyfar iawn - mae'n defnyddio trydan, nid cemegau, i newid y gronynnau yn y dŵr.
"Mae'n rhywbeth nad sydd wedi'i wneud o'r blaen ar y fath raddfa, felly mae'n gyffrous iawn, ac mae'n cael ei ddatblygu yma yng Nghymru."
Mae'r offer yn cael ei gludo o Gymru penwythnos yma i borthladd Chittagong. Bydd yn cyrraedd pen ei daith ddechrau Hydref, ac yn cael ei ddefnyddio tua 20 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020