Swyddogion ar batrôl ar ôl clwstwr o achosion yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae gan yr awdurdod yr hawl i gau busnesau
Mae swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin ar batrôl y penwythnos yma ar ôl clwstwr o achosion Covid-19 o fewn yr awdurdod.
Cafodd 14 o achosion eu cysylltu â noson wobrwyo yng nghlwb pêl-droed a chriced Drefach ger Llanelli fis diwethaf.
Yn ôl y Cyngor fyddan nhw ddim yn meddwl ddwywaith cyn cau busnesau sydd ddim yn dilyn y rheolau.
Bydd swyddogion y cyngor, ynghyd â heddlu Dyfed-Powys yn targedu clybiau chwaraeon, tafarndai, tai bwyta a siopau.

Arwydd mewn ffenest siop yn Drefach yn rhybuddio pobl oedd yn y noson wobrwyo i gadw draw
Dywedodd y Cynghorydd Phillip Hughes, aelod o fwrdd gweithredol y sir, fod yr awdurdod yn poeni'n fawr am y sefyllfa.
"Mae'n bwysig ein bod yn aros dau fetr ar wahân a dilyn y rheolau oherwydd rydym wedi cael un clwstwr gyda 14 o achosion positif, gyda chant o bobl yn hunan-ynysu," meddai.
"Dyna pa mor gyflym mae'n ymledu mewn amser byr iawn fell y mae'n bwysig fod unrhyw glybiau, tafarndai, tai bwyta a siopau yn glynu at y rheolau.
"Ni fyddwn yn oedi rhag gosod nodyn fydd yn gorfodi safle i wella neu i gau, ac rydym eisoes wedi gwneud hynny yn y gorffennol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020