Rhybudd cyfyngiadau wedi achosion Covid-19 Drefach

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced a Phêl-droed Drefach yn Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Criced a Phêl-droed Drefach yn Sir Gaerfyrddin - tarddiad yr achos o heintio cymunedol wedi noson wobrwyo yno

Mae cynghorau, awdurdodau iechyd a'r heddlu yn y de orllewin wedi rhybuddio pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol, neu orfod wynebu cyfyngiadau Covid-19 yn lleol.

Mae arweinwyr y cynghorau lleol - Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion - yn "annog pawb i chwarae eu rhan i gadw eu siroedd a'u cymunedau'n ddiogel".

Daw yn dilyn achos yn Sir Gaerfyrddin pan gafodd 14 o bobl eu heintio gyda Covid-19 ar ôl noson wobrwyo yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach ddiwedd Awst.

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Emlyn Dole, roedd rhwng 60 ac 80 o bobl yn y digwyddiad, ac mae tua 100 o bobl bellach yn hunan-ynysu yn dilyn yr achos o heintio cymunedol.

Mae arweinwyr y cynghorau wedi rhybuddio bod angen dilyn rheolau i osgoi cyfnod clo lleol fel sydd yn Sir Caerffili.

Mewn datganiad ar y cyd ddydd Mercher, dywedodd y Cynghorydd Dole, y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro, a'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion:

"Y peth olaf rydym eisiau ei wneud yw bod o dan gyfyngiadau symud lleol, fel sydd eisoes wedi digwydd mewn mannau eraill yng Nghymru.

"Ond, os bydd y bygythiad yn cynyddu a'r diffyg cadw pellter cymdeithasol yn parhau, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i ni gymryd y camau angenrheidiol."

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd mewn ffenest siop yn Drefach yn rhybuddio pobl oedd yn y noson wobrwyo i gadw draw

Ychwanegodd y datganiad bod y pandemig "ymhell o ddod i ben" a bod "angen i bobl barchu'r mesurau sydd ar waith ar waith a chymryd cyfrifoldeb personol dros gadw pellter cymdeithasol a hylendid da".

"Helpwch i gadw cymunedau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion yn ddiogel - mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhaid i amddiffyn ein hunain a'n gilydd."

'Parhau'n salwch difrifol iawn'

Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nod gorllewin Cymru "wedi bod yn ffodus iawn" gyda "chyfraddau heintio cymharol isel o Covid-19".

"Roedd hyn o ganlyniad i ymdrechion arbennig y cyhoedd i ddilyn canllawiau diogelwch a oedd yn atal y clefyd hwn rhag lledaenu.

"Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu ac mae'n parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes."

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd o rybudd tu mewn i siop a garej Drefach yn rhybuddio cwsmeriaid

Anogodd y cyhoedd i barhau i ddilyn y cyngor iechyd o gadw pellter cymdeithasol, lleihau cyswllt ag eraill a golchi dwylo'n rheolaidd.

Ychwanegodd: "Mae cynnal yr arferion hyn yn gwbl hanfodol er mwyn lleihau effaith a lledaeniad y pandemig. Mae'r cyhoedd hefyd yn bartner hollbwysig yn y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

"Dim ond gyda'ch cefnogaeth a'ch parodrwydd chi i roi gwybod am symptomau, nodi cysylltiadau a dilyn cyngor am hunan ynysu y gallwn nodi a mynd i'r afael ag unrhyw achosion newydd a diogelu ein gilydd."