Cefnogwyr Wrecsam yn ystyried cais i brynu'r clwb
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi gwneud cais i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam a buddsoddi £2m yn y clwb.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, sy'n berchen ar y clwb, wedi galw cyfarfod cyffredinol arbennig er mwyn trafod y cynnig.
Dywedodd y clwb bod y cynnig wedi'i wneud gan "ddau unigolyn adnabyddus iawn".
Mae'r ymddiriedolaeth ar ddeall y byddai'r ddau berson, sydd eisiau aros yn anhysbys, yn buddsoddi £2m yn y clwb yn syth.
Cefnogwyr y clwb sydd wedi bod yn berchen arno ers 2011, ond byddai'r datblygiad yn ei weld yn cael ei berchnogi'n llwyr gan y ddau unigolyn.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam bod angen caniatâd y cyfarfod cyffredinol arbennig cyn trafod y cynnig gyda'r ddau unigolyn.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar 22 Medi, a bydd y ddau berson yn cael eu gwneud yn hysbys unwaith y bydd aelodau wedi rhoi caniatâd i'r bwrdd fwrw 'mlaen gyda'r trafodaethau.