Hitachi'n tynnu'n ôl o gynllun codi Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dim Wylfa: 'Ergyd arall' neu gyfle am ddyfodol gwahanol?

Mae arweinydd Cyngor Môn wedi gofyn am gyfarfod gyda llywodraethau Cymru a'r DU wedi i gwmni Hitachi roi gwybod iddi nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynllun adeiladu atomfa Wylfa Newydd.

Mae'r Cynghorydd Llinos Medi wedi cadarnhau wrth BBC Cymru ei bod wedi derbyn llythyr gan y cwmni sy'n cadarnhau eu bod yn tynnu'n ôl o'r cynllun.

Dywedodd: "Mae hyn yn newyddion siomedig, yn enwedig ar adeg mor anodd yn economaidd."

Doedd Horizon Nuclear Power, yr is-gwmni a fyddai wedi bod yn gyfrifol am y datblygiad, ddim am ymateb i adroddiadau yn Japan fod Hitachi wedi dod i'r casgliad fod hi'n amhosib ailgydio yn y cynllun.

'Pryder enfawr am ein pobl ifanc'

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ddydd Mawrth, dywedodd Llinos Medi: "Dwi'n meddwl bod rhaid i'r llywodraeth ddangos be' maen nhw'n bwriadu 'neud o ran cynhyrchu ynni - dim fi sydd yn creu polisi ynni'r wlad, mae hynny yn dod o'r llywodraeth yn Llundain ac mae'n bwysig rŵan iddyn nhw ddweud beth ydy eu bwriad.

"Achos ar ddiwedd y dydd mae pobl ifanc yr ynys, da ni'n colli nhw, mae'n ardaloedd Cymreig ni'n colli a'n cryfderau ni'n mynd oddi yma, achos does ganddom ni ddim economi i'w cadw nhw yma.

"Mae economi Ynys Môn angen unrhyw fath o ddatblygiad sydd yn cynhyrchu swyddi da sydd yn rhoi ansawdd bywyd da."

Ychwanegodd: "Mae gen i bryder enfawr am ein pobl ifanc ni, ac mae'n ddyletswydd arnom ni gyd i sicrhau bod 'na swyddi yma, a swyddi o ansawdd. Tydi pobl Ynys Môn ddim yn haeddu llai o gyflog na unrhyw ardal arall o Gymru."

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn fwriad i atomfa Wylfa Newydd ddechrau cynhyrchu erbyn canol y ddegawd

Cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 i atal yr holl waith ar y cynllun, a fyddai wedi costio hyd at £20bn, wedi methiant i ddod i gytundeb ariannol.

Dyw Hitachi heb wneud sylw ychwaith wedi i adroddiadau dros nos awgrymu y bydd bwrdd y cwmni'n cadarnhau eu penderfyniad terfynol ddydd Mercher.

Mae'r cwmni wedi bod mewn trafodaethau ynghylch ariannu prosiectau ynni niwclear gyda Llywodraeth y DU.

Cafodd penderfyniad o ran caniatáu adeiladu'r atomfa newydd ei ohirio yn gynharach eleni gan Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU, Alok Sharma, tan 30 Medi eleni.

Ymateb cymysg

Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa wedi cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.

Daw'r "newyddion drwg ofnadwy" fod Hitachi'n tynnu'n ôl o'r cynllun ar adeg pan fo disgwyl i ddiweithdra gynyddu, yn ôl Dr Edward Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newyddion yn ergyd mewn cyfnod sydd eisoes yn ansicr ac anodd, medd Dr Edward Jones

"Os oeddan nhw am ddod i Ynys Môn, roeddan nhw am ddod â swyddi a rhyw fath o fwrlwm yn yr economi leol," meddai. "Ond mae hyn yn golygu bod nhw ddim yn dŵad a bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar yr economi leol.

"Mi oedd 'na lot wedi buddsoddi - pobl ifanc wedi buddsoddi amser wrth astudio graddau a dulliau newydd o weithio. Yr her rŵan ydi darganfod prosiectau eraill i ddefnyddio'r sgiliau yma."

Bydd ceisio denu cyflogwyr eraill i'r ardal yn cymryd amser, meddai, yn enwedig gan fod "cwmnïau mawr ddim yn licio neud penderfyniadau mawr mewn cyfnodau [o ansicrwydd]".

Ychwanegodd: "Mae cwmnïau isio buddsoddi amser mewn prosiectau sy'n dda i'r amgylchedd - mae'n anodd gwybod lle mae niwclear yn ffitio mewn i hynna."

Mae'r grŵp gwrth-niwclear Pobol Atal Wylfa B (PAWB) wedi croesawu'r ffaith na fydd y cynllun yn mynd yn ei flaen.

Dywedodd un o lefarwyr y grŵp, Robat Idris ar Twitter ei fod yn "newyddion da iawn" i'r mudiad "ac i Gymru gyfan".

Ychwanegodd: "Edrychwch ar waith cynaliadwy gwyrdd o hyn ymlaen. Collwyd cyfleon di-ri wrth ddilyn y freuddwyd niwclear ffôl am flynyddoedd."

Dadansoddiad Gohebydd Busnes BBC Cymru, Brian Meechan

Mae prosiect Wylfa Newydd, un o brosiectau adeiladau arfaethedig mwyaf Cymru, wedi bod yn un cythryblus.

Mae cost codi atomfa newydd wastad wedi bod yn destun pryder i'r cwmni y tu ôl i'r datblygiad, Hitachi.

Aeth Llywodraeth y DU beth ffordd at gynnig cefnogaeth ariannol i'r cynllun ond doedd hynny ddim yn ddigon i liniaru pryderon Hitachi ynghylch y risgiau ariannol.

Fe wnaeth Llywodraeth y DU hefyd ymgynghori ar gynlluniau a fyddai wedi gweld cwsmeriaid ynni'n talu o flaen llaw, gan gyfrannu at y costau adeiladu.

Mae'r diwydiant yn aros ers misoedd am ganlyniadau'r trafodaethau a'r cynigion.

Pan ddywedodd Llywodraeth San Steffan fod cynlluniau niwclear yn rhan o'r ymdrechion i hybu ynni gwyrdd, fe welodd y diwydiant hynny fel arwydd calonogol i gynllun Wylfa Newydd.

Ond mae gwrthwynebwyr yn amheus ynghylch pa mor wyrdd yw ynni niwclear mewn gwirionedd - heb sôn am ba mor ddiogel ydyw.

Mae rhai wedi cyfeirio at Gymru fel 'gwlad y lluniau artist' gan fod gymaint o gynlluniau mawr wedi'u datblygu ond heb eu gwireddu.

Bydd cefnogwyr Wylfa Newydd yn bryderus bod hwn yn enghraifft eto fyth o hynny, tra bydd gwrthwynebwyr yn falch o weld terfyn ar y cynlluniau.