Clo lleol: Rhwystredigaeth yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi lleisio eu rhwystredigaeth wrth wynebu cyfnod arall dan glo.
Ers 18:00 ddydd Iau mae'r sir yn dilyn yr un trywydd a Sir Caerffili gan ddod dan reolau cyfnod clo lleol o achos y cynnydd mewn niferoedd yr achosion o Covid-19.
Mae rheolau llym ar fywydau'r 240,000 o bobl sydd yn byw o fewn ffiniau'r sir o ddydd i ddydd. Nid oes modd iddyn nhw adael y sir heb esboniad rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu ar gyfer eu haddysg.
Nid oes hawl i gyfarfod pobl o aelwydydd eraill dan do yn eu cartrefi, ac mae'n rhaid i dafarndai, bariau a thafarndai gau eu drysau erbyn 23:00.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod cynnydd "sydyn" wedi bod mewn achosion yn y sir, gyda 82.1 o bobl wedi eu heintio am bob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf.
Ar draws Cymru, fel cymhariaeth, y ffigwr yn genedlaethol ydy 21.4 ymhob 100,000.
Roedd cyfradd yr achosion positif am yr wythnos ddiwethaf gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher yn 5.1% - yr uchaf yng Nghymru. Y cyfartaledd Cymreig ydy 2.4%.
Dangosodd y ffigyrau diweddaraf fod cyfradd yr achosion yn Rhondda Cynon Taf bron mor uchel a'r gyfradd yng Nghaerffili, oedd yn 83.4 ymhob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith wythnos diwethaf.
Yn wyneb cyfnod clo arall, mae rhai pobl yn y sir yn dadlau fod angen ystyried cyfyngiadau lleol iawn, yn hytrach nag ar raddfa sirol.
Dywedodd y cynghorydd Danny Grehan o Blaid Cymru - sy'n cynrychioli ward Tonyrefail - wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore dydd Iau: "Dwi'n meddwl oedd pobl yn gweld y ffigyrau'n codi, pobl yn gweld bod yna broblem ar waelod y Rhondda fan hyn - a ma hwnna i fi yn drist nad oes ryw ffordd o gael clo mwy lleol eto.
"O wybod bod 'na broblem mewn ardal leol, byddai modd wythnos yn ôl i edrych ar y broblem yna, a delio gyda'r broblem yna mewn ardal o lai o faint - yn hytrach na gadael i'r broblem dyfu nes bod angen cau sir gyfan.
"Fel cynghorydd o'n i'n cael cwestiynau di-ri ddoe gan bobl sy' ddim yn deall be ma nhw'n gallu neud... ma 'na wastad cwestiynau, ma 'na wastad ofnau - ond mae rhaid cael y ffin yn rhywle, felly os oes modd cael ffin lai o faint er mwyn arbed gweddill y sir... dwi'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylid edrych arno fe."
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod rhai yn teimlo bach yn ddig, ond be sy'n bwysig nawr yw'r ffordd ymlaen a'n bod ni fel cymuned, fel nathon ni yn y clo mawr, yn gweithio gyda'n gilydd i helpu pobl beidio mynd mas ar hyn o bryd, yn bod yn ofalus ac yn cadw at y rheolau.
I fusnesau lleol, mae'r cyfnod clo newydd yn ddatblygiad pryderus. Perchennog Caffi'r Hen Lyfrgell yn y Porth yw Teleri Jones.
Dywedodd wrth y Post Cyntaf: "Fi'n croesawu'r newyddion er mwyn amddiffyn iechyd pobl.
"'O'n i wedi rhagweld y byddai rhywbeth yn digwydd yn yr ardal... yn amlwg ma e'n newyddion negyddol i fusnesau, mae'n gam arall yn ôl i ni o ran ceisio ail-agor ac ail-ddechre.
"Ni wedi gweld niferoedd y cwsmeriaid yn dechrau codi dros yr wythnosau diwetha', ond wythnos dwetha' dwi'n credu, wrth i bobl ddechre sylweddoli a dechrau pryderu, bod niferoedd wedi dechrau disgyn eto - felly gawn ni weld os bydd pobl yn dod mewn dros yr wythnos nesa neu'n cadw bant.
"Ni 'di bod yn ail-agor yn rhan amser, gan aros ar y cynllun ffyrlo i weld faint bydde yn dod allan. Mae hi wedi bod yn anodd... mae hi wedi bod yn fater o ddechre'r busnes cam wrth gam eto.
"Ma' pobl wedi bod yn poeni, yn enwedig rhai gyda phroblemau iechyd. Roedden nhw wedi bod yn cadw draw, ac yna wedi dechrau dod 'nôl yn raddol... ond 'odd wythnos dwetha'n fwy tawel gyda mwy o sylw ar y newyddion ac ati a dwi'n rhagweld bydd mwy fyth yn cadw bant wythnos yma."
'Meddylfryd anarchaidd'
Yn ôl yr aelod seneddol Llafur lleol, Chris Bryant, methiant rhai pobl i ddilyn canllawiau Covid-19 sydd wedi arwain at y cynnydd mewn achosion.
Dywedodd wrth BBC Radio Wales: "Rhaid bod rhai pobl yn credu fod ganddyn nhw glogyn hud sydd yn golygu na fydd y feirws yn eu cyffwrdd neu unrhyw un y maen nhw y ei adnabod neu ei garu - ac mae rhai pobl yn mynd i feddylfryd anarchaidd a phenderfynu eu bod am wneud beth bynnag maen nhw am ei wneud.
"Os na fydd Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â'r mater pofion fe fyddwn yn colli rheloaeth ar y feirws...os ydym yn colli rheolaeth yna fe fyddem yn colli rheolaeth ar y Gwasanaeth Iechyd..wrth i ni fynd i fisoedd y gaeaf fe allai hyn fod yn beryglus iawn."
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn asesu'r camau nesaf ar gyfer y clo lleol yn Rhondda Cynon Taf mewn pythefnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020
- Cyhoeddwyd12 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020