Rhondda Cynon Taf i wynebu cyfyngiadau Covid-19 llymach

  • Cyhoeddwyd
Poster Covid

Bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledaenu rhagor yn y sir.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y gweinidog iechyd yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru.

O 18:00 nos Iau, ni fydd pobl yn cael mynd i mewn neu allan o'r sir heb reswm da fel teithio i'r gwaith neu am addysg. Ni fydd teuluoedd estynedig yn cael cyfarfod dan do chwaith.

Bydd pobl yn dal i gael cyfarfod y tu allan, ond bydd tafarndai a bariau yn gorfod cau am 23:00 yn y sir gan eu bod yn "ffactor" yn lledaeniad y feirws.

Bydd y cyfyngiadau'n cael eu hadolygu mewn pythefnos, ond dywedodd y gweinidog y gallai gymryd hyd at dair wythnos i weld effaith y mesurau.

Clystyrau 'arwyddocaol'

Dywedodd Vaughan Gething bod cynnydd sydyn wedi bod mewn achosion yn y sir, gydag 82.1 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Cymru gyfan yw 21.4 achos i bob 100,000.

Dywedodd bod dau glwstwr "arwyddocaol" yn y sir, un yn ymwneud â chlwb rygbi, ac un arall â grŵp o bobl aeth ar ddiwrnod allan i rasys Doncaster, gan stopio "mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd".

Ond fe ddywedodd Awdurdod Rasio Ceffylau Prydeinig (BHA) nos Fercher fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi gwybod iddyn nhw nad oedd y grŵp wedi ymweld â chae ras Doncaster, fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, wedi'r cyfan.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cydnabod, dolen allanol na fuodd y criw yn y rasys er mai dyna oedd y cynllun gwreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Vaughan Gething fod yr achosion yn "ymwneud fwyaf â phobl yn cymdeithasu heb bellter cymdeithasol a chyfarfod yng nghartrefi ei gilydd"

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 199 achos newydd o coronafeirws wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru ddydd Mercher, gyda 52 yn Rhondda Cynon Taf, 36 yng Nghaerffili a 15 yng Nghasnewydd.

Ni chafodd unrhyw farwolaethau ei cofnodi, ond mae'r cyfanswm sydd wedi cael prawf positif bellach yn 19,880.

Cwtogi oriau agor tafarndai

Dyma'r ail sir yng Nghymru i wynebu cyfyngiadau lleol ers y cyfnod clo cenedlaethol yn gynharach yn y flwyddyn.

Cafodd trigolion Caerffili wybod y byddai mesurau tebyg yn cael eu cyflwyno yn y sir honno ddydd Mawrth diwethaf.

Er y cyfyngiadau ychwanegol, dywedodd Mr Gething bod rhesymau i fod yn optimistaidd yn dilyn effaith y mesurau yn Sir Caerffili.

Dywedodd bod achosion "wedi arafu a chwympo rhywfaint" yno.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i fariau a thafarndai gau am 23:00 yn y sir

Mae tafarndai a bariau wedi chwarae rhan yn lledaeniad y feirws meddai Mr Gething, ac felly bydd oriau agor yn cael eu cyfyngu.

"Bydd oriau agor hwyr mewn lleoliadau trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf yn dod i ben", meddai.

"Mae bar wedi cau ym Mhontypridd ar ôl i sawl achos o dorri rheolau gael eu dal ar CCTV. Mae lleoliad wedi cau yn Nhonypandy, ac mae rhybuddion wedi eu rhoi i far arall ym Mhontypridd a barbwr yn Nhonypandy."

Dywedodd bod swyddogion wedi ymweld â 50 o leoliadau eraill dros y penwythnos hefyd a'i bod hi'n debygol y byddai mwy o gamau gorfodi yn dod i rym yn y llefydd hyn.

'Ddim yn syndod'

Mae Aelod o'r Senedd Rhondda, Leanne Wood wedi dweud ei bod hi'n "siomedig ond ddim wedi synnu" wrth glywed am y cyfyngiadau newydd.

"Roedd hyn yn rhywbeth roedden ni wedi ofni yn dilyn cynnydd yn y cyfraddau heintio," meddai.

Dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd yn y Senedd, y dylai'r cyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf fod mewn lle "am gyn lleied o amser â phosib".

"Dylid gwneud pob ymdrech i osgoi sefyllfaoedd tebyg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys dysgu o'r cyfyngiadau lleol yma," meddai.