Mam yn chwilio am yr arwr a achubodd ei merch o'r môr
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi canmol achubwr bywyd oedd ddim ar ddyletswydd am achub ei merch pan aeth i drafferthion yn y môr.
Roedd Megan Gulliford, 12 oed, yn padlo yn y tonnau ar draeth ym Mhorthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, pan aeth allan o'i dyfnder a chael ei sgubo o'r lan gan y cerrynt.
Yna daeth ton fawr i'w thaflu ar greigiau ym Mae Rest cyn i'r dyn gamu i'r adwy, ond nid cyn iddi ddiodde' man anafiadau.
"Fedrwn ni ddim diolch ddigon iddo," meddai Pippa Gulliford, mam i dri o Ben-y-bont.
Mae'r teulu wedi ceisio dod o hyd i'r dyn - oedd yn disgrifio'i hun fel achubwr bywyd oedd ddim ar ddyletswydd - er mwyn diolch yn iawn iddo.
Mae neges Ms Gulliford ar Facebook wedi cael ei rannu dros 700 o weithiau.
Mae'r RNLI, sy'n gweithredu ar adegau yn ardal Bae Rest, yn ceisio darganfod a yw'r dyn yn gysylltiedig gyda'u sefydliad nhw mewn rhyw ffordd.
Dywedodd yr RNLI bod cerrynt terfol (rip currents) yn gallu "sgubo rhywun yn gyflym o ddŵr bas i fod allan o'u dyfnder" ac yn cynghori pobl i ddilyn canllawiau diogelwch lleol ar draethau.
Nid oedd yn fwriad gan Megan i fynd i'r môr pan aeth i'r traeth gyda'i chwaer Cerys, a'i chariad hithau, Kieran, ddydd Llun diwethaf.
'Meddwl mod i'n mynd i farw'
Dywedodd Megan wrth y BBC ei bod yn neidio ar y tonnau pan gafodd ei thynnu allan o'i dyfnder gan un don.
"Sylweddolais i mod i'n methu cyrraedd y llawr," meddai.
"Roedd fy chwaer yn galw arna i, ac ro'n i'n sgrechian a llefain. Ro'n i'n meddwl mod i'n mynd i farw.
"Fe wnaeth ton enfawr fy ngwthio yma ac fe wnes i nofio ar y graig agosaf. Pum eiliad wedyn daeth ton arall i'm taflu dros y creigiau."
Dyna pryd ymddangosodd y dyn gan ei thynnu i ddiogelwch ac yn ôl i'r lan yn y pen draw.
Cafodd man anafiadau i'w chorff o'r creigiau.
Dywedodd Ms Gulliford bod Cerys hefyd wedi'i hanafu wrth geisio cyrraedd ei chwaer fach, a'i bod yn poeni fod Megan wedi taro'i phen ar y graig.
"Gallai wedi bod yn sefyllfa wahanol iawn," meddai, gan ychwanegu bod angen i bobl fod yn ymwybodol o'r peryglon wrth badlo yn y môr.
"Mae plant angen bod yn wyliadwrus iawn o rym y môr," meddai Ms Gulliford.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd2 Awst 2020
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2020