Teledu ail-law yn effeithio band eang pentref am 18 mis
- Cyhoeddwyd
Mae peirianwyr wedi datrys dirgelwch gan ddarganfod beth wnaeth achosi problemau band eang i drigolion pentref yn y canolbarth am 18 mis.
Roedd cyswllt y we a chyflymder araf yn broblem dyddiol i bobl Aberhosan ger Machynlleth - a hynny o 07:00 bob bore.
Bu'n rhaid i beirianwyr Openreach feddwl eto ar ôl i ymgais i ddisodli ceblau fethu â datrys y broblem.
Yna fe wnaethon nhw ddefnyddio dyfais fonitro a chanfod bod y nam oherwydd ymyrraeth drydanol a oedd yn dod o deledu ail-law o dŷ yn y pentref.
Cafodd y perchennog, nad yw am gael ei adnabod, ei synnu i ganfod bod ei hen deledu yn achosi'r broblem, yn ôl Openreach.
Fe wnaeth y perchennog gytuno i'w ddiffodd a pheidio â'i ddefnyddio eto.
Ymyrraeth drydanol
Cerddodd peirianwyr o amgylch y pentref gyda monitor i geisio dod o hyd i unrhyw "sŵn trydanol" i helpu i nodi'r broblem.
"Ac am 07:00, dyna a ddigwyddodd," meddai Mr Jones.
"Mae'n ymddangos y byddai'r preswylydd yn troi ei hen deledu ymlaen am 7am bob bore a fyddai, yn ei dro, yn bwrw band eang allan o'r pentref cyfan."
Daeth hi i'r amlwg bod y teledu yn allyrru un sŵn impulse lefel uchel (SHINE), sy'n achosi ymyrraeth drydanol mewn dyfeisiau eraill.
Dywedodd Mr Jones nad yw'r broblem wedi dychwelyd ers i'r nam gael ei nodi.
Bydd Aberhosan yn derbyn cyswllt ffibr yn ddiweddarach eleni fel rhan o'r gwaith i ehangu'r rhwydwaith band eang ffibr yng nghefn gwlad Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020