Coronafeirws: 199 achos newydd, dim un farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth cadarnhad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 199 yn rhagor o bobl wedi profi'n bositif i Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

Ond nid oedd yr un farwolaeth o ganlyniad i'r haint yn ystod yr un cyfnod.

Mae'n golygu bod 20,644 o bobl wedi profi'n bositif yn ystod y pandemig, a bod nifer y marwolaethau yng Nghymru yn parhau i fod yn 1,603.

Cafodd 8,784 o brofion eu cynnal ddydd Sadwrn.

Nifer y bobl sydd wedi cael eu profi yng Nghymru bellach yw 456,192, gyda 435,548 yn profi'n negyddol.

Roedd mwyafrif yr achosion newydd (80) yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Fodd bynnag, dim ond tri achos newydd a gofnodwyd ym Merthyr.

Roedd 40 achos newydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n cynnwys sir Caerffili, a 24 yn yr ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Fe gafodd 19 o achosion newydd eu cadarnhau yn Sir Gâr hefyd, gyda dim un yn Sir Benfro na Cheredigion.

Gwaith da yn ofer

Dywedodd Dr Giri Shankar, un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Rydym yn parhau i weld cynnydd cyson mewn achosion mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac mae ein hymchwiliadau'n dangos bod llawer o'r rhain wedi'u trosglwyddo gan nad yw pobl yn cadw pellter cymdeithasol.

"Rydym hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael ac sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty gyda Covid-19.

"Rydym yn poeni bod llawer o'r gwaith da sydd wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf mewn perygl o fod yn ofer. Os bydd y sefyllfa'n parhau i waethygu, efallai y byddwn yn cyrraedd yr un lefelau o'r haint ag yr oeddem yn eu hwynebu'n gynharach eleni ym mis Mawrth ac Ebrill; a chyda hynny daw'r potensial i osod cyfyngiadau mwy estynedig yn genedlaethol."

"Nid yw'r coronafeirws wedi diflannu. Mae helpu i atal lledaeniad y feirws hwn i amddiffyn aelodau hŷn a bregus o'r teulu a ffrindiau yn parhau'n gyfrifoldeb i bob un ohonom. Dylid gwneud hyn drwy hunanynysu pan mae cais i wneud hynny, aros dau fetr oddi wrth bobl eraill, a golchi dwylo'n rheolaidd.