Covid-19: Pobl yn cymryd mwy o risgiau bob dydd

  • Cyhoeddwyd
rct

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi dweud y gallai cyflwyno cyfnod clo cenedlaethol arall fod yn 'anghymesur' i rannau o'r wlad.

Yn gynharach yr wythnos hon fe rybuddiodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AS, y gellid cyflwyno ail gyfnod clo ar gyfer Cymru gyfan os na fyddai ymddygiad pellhau cymdeithasol pobl yn newid.

Mae cyfyngiadau ar symudiadau pobl eisoes wedi cael eu cyflwyno yn siroedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd mewn achosion o coronafeirws.

Wrth siarad gyda BBC Radio Wales fore Sul, dywedodd Dr Chris Jones fod pobl yn cymryd mwy o risgiau yn eu bywydau bob dydd.

"Rwy'n credu bod pobl wedi dod yn gyfarwydd â phresenoldeb y feirws hwn, ac maen nhw'n meddwl ei fod yn fwy diogel nag yr oedd, a bod y risg iddyn nhw yn llai.

"Ond, wrth gwrs, rydyn ni'n gwybod nad yw hynny'n wir mewn gwirionedd."

"Y peth hanfodol yw pan fydd gan rywun symptomau, eu bod yn ynysu eu hunain rhag dod i gysylltiad ag eraill ac mae dal angen i ni i gyd geisio atal ein hunain rhag dal y feirws hwn hefyd.

Dywedodd Dr Jones bod rhai ardaloedd yn ne a de-ddwyrain Cymru lle mae cryn dipyn o drosglwyddo o fewn y gymuned, ond bod hynny'n digwydd yn llai mewn rhannau eraill o Gymru yn enwedig gorllewin Cymru, ganolbarth Cymru a gogledd Cymru

"Felly dyna un o'r heriau sy'n ein hwynebu.

"Gall cymryd mesurau cenedlaethol fod yn anghymesur i bobl mewn ardaloedd lle mae'r feirws yn llai trafferthus."

Poeni am Geredigion

Daw'r sylwadau wrth i Gyngor Ceredigion gynghori un o fariau Aberystwyth i dynhau eu mesurau diogelwch ar ôl i dorf o bobl ifanc gael eu ffilmio yn torri'r rheolau ar ymbellhau'n gymdeithasol nos Wener.

Mae'r myfyriwr wnaeth ffilmio'r fideo y tu allan i glwb nos y Pier yn dweud ei fod wedi cael ei frawychu.

"Mae'n poeni fi, yn enwedig o edrych ar Geredigion, oherwydd mae llai na 100 achos drwy'r pandemig i gyd," meddai Ifan Price, sy'n fyfyriwr yn yr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Bydd 'na 8,000 o fyfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth y penwythnos yma, a bydd hwnna'n newid demograffeg pob dim, ac mae angen meddwl beth fydd yr effaith.

Ffynhonnell y llun, Ifan Price
Disgrifiad o’r llun,

Llun oddi ar y fideo a gafodd ei gymryd yn hwyr nos Wener y tu allan i glwb a thafarn ar y Pier yn Aberystwyth

Dywedodd bod dau aelod o staff y tu allan i'r bar ar y noson, a'u bod nhw'n ceisio atgoffa pobl o'u cyfrifoldeb i gadw pellter.

"Mae seicoleg pobl ifanc wedi newid yn hollol," meddai, "oherwydd 'da ni'n meddwl bod normalrwydd wedi dod nôl, lle mewn gwirionedd mae achosion Covid yn codi.

"Dwi'n meddwl bod angen i Gyngor Ceredigion wneud rhywbeth tebyg i beth wnaeth Cyngor Caerdydd ar ôl i glipiau tebyg gael eu tynnu o giwiau tu allan i glwb nos yn fanno", meddai, "ac fe gawson nhw rybudd os na fyddai pethau'n gwella y bydden nhw'n cael eu cau i lawr."

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn ymwybodol o'r fideo a'u bod nhw wedi trafod gyda'r Pier am yr angen i sicrhau pellter cymdeithasol.

"Rydym wedi cael cydweithrediad llawn gan reolwyr y Pier a byddant yn lleihau nifer y byrddau y tu mewn, ac maent wedi cyflogi staff diogelu ychwanegol y tu allan i sicrhau cydymffurfiaeth."