Drakeford: Angen adennill ymddiriedaeth pleidleiswyr
- Cyhoeddwyd
Fe fydd angen i Lafur Cymru "ennill" ymddiriedaeth pleidleiswyr eto yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, yn ôl y prif weinidog.
Dywedodd Mark Drakeford AS wrth gynhadledd rithiol Llafur y byddai ei blaid yn cyflwyno "agenda radical ar gyfer yr amseroedd radical anodd a gwahanol hyn".
Yn etholiad cyffredinol 2019 fe gollodd Llafur chwe sedd yng Nghymru i'r Ceidwadwyr,
Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu y gallai Llafur golli seddi yn yr etholiad nesaf ond parhau i fod y blaid gyda nifer mwyaf y seddi ym Mae Caerdydd.
Mae Llafur wedi arwain Llywodraeth Cymru yn barhaus ers yr etholiad datganoli cyntaf ym 1999.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y gynhadledd rithiol: "Am ugain mlynedd, mae'r Blaid Lafur wedi ennill ymddiriedaeth pobl yng Nghymru. Eich pryderon chi yw ein pryderon ni.
"Wrth i ni ddechrau ar y llwybr tuag at yr etholiad yn 2021, mae'n rhaid i ni ennill yr ymddiriedaeth honno eto.
"Rhaid dangos y gall caledi pobl a difrod o ganlyniad i coronafeirws fod yn gatalydd ar gyfer newid dwys a pharhaol," ychwanegodd.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru hefyd y byddai ei blaid yn sefyll "dros yr hawl i ddatganoli a fu'n frwydr mor galed, ond hefyd i weithio dros Deyrnas Unedig lwyddiannus."
Mewn cyfweliad diweddar â Sky News, dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n glir iawn pe bai poblogaeth yr Alban neu yn wir yng Nghymru eisiau cynnal refferendwm, mater i bobl Cymru a phobl yr Alban yw gwneud y penderfyniad hwnnw, ac yna rhaid parchu'r penderfyniad hwnnw. "
Yn ôl gwefan Politico roedd yna ychydig o 'anghydweld' yng nghyfarfod cabinet cysgodol Llafur wedi sylwadau'r Prif Weinidog yn dilyn "gwrthwynebiad cryf" gan Ysgrifennydd Cysgodol yr Alban, Ian Murray.
Mae BBC Cymru hefyd wedi cael gwybod bod Ian Murray AS yn "rhwystredig iawn" o ystyried cyd-destun cefnogaeth gref i refferendwm annibyniaeth arall yn yr Alban.
Pan ofynnwyd i Arweinydd Llafur y DU, Keir Starmer AS ar raglen Andrew Marr y BBC am farn y prif weinidog, dywedodd: "Rydyn ni'n mynd i fynd i etholiad fis Mai nesaf ... a byddwn ni'n dadlau taw ailadeiladu'r economi sy'n bwysig, ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a threchu'r feirws, nid refferendwm arall. "
Dywedodd Plaid Cymru fod yr ymateb yn "tanseilio" sylwadau'r prif weinidog.
Dywedodd Arweinydd y Blaid, Adam Price MS: "Yn y pen draw, arweinydd Llafur y DU sy'n gyrru agenda bolisi'r blaid.
"Ni fydd unrhyw faint o sylwadau ystyrlon gan y Blaid Lafur yng Nghymru yn newid y ffaith y bydd canolfan pŵer y blaid yn Llundain bob amser.
"Ni fydd Llafur byth yn sicrhau annibyniaeth i'r Alban na Chymru," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019