Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Matt Jukes, i adael ei swydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru yn gadael ei swydd ym mis Tachwedd i ymuno gyda Heddlu'r Met yn Llundain.
Cyhoeddodd Matt Jukes y byddai'n ymuno gyda'r Met fel Comisiynydd Cynorthwyol yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Heddlu'r De y byddai'r Dirprwy Brif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, yn ymgymryd â'r rôl am gyfnod wrth i'r broses recriwtio fynd rhagddi.
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jenny Gilmer fydd yn llenwi swydd Mr Vaughan yn ystod y cyfnod.
Wrth ddiolch i Mr Jukes am ei waith, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Alun Michael ei fod yn "arweinydd rhagorol" a bod y llu yn "adlewyrchu ei arweinyddiaeth a chryfder y prif swyddogion y mae wedi'u datblygu o'i gwmpas".