Rhuthun yn cael ei ffafrio ar gyfer felodrom newydd

  • Cyhoeddwyd
Rhuthun
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r felodrom awyr agored yn cael ei adeiladu ger datblygiad Glasdir yn y dref

Mae tref Rhuthun wedi cael ei dewis fel y safle sy'n cael ei ffafrio ar gyfer adeiladu felodrom seiclo cyntaf gogledd Cymru.

Mae corff Seiclo Cymru wedi cadarnhau'r dewis yn dilyn asesiad o achos busnes Cyngor Tref Rhuthun.

Fe fyddai'r felodrom awyr agored yn cael ei adeiladu ger datblygiad Glasdir yn y dref - rhwng y clwb criced ac ysgolion newydd Pen Barras a Stryd y Rhos.

Bydd Seiclo Cymru nawr yn symud 'mlaen i'r camau nesaf, sef trafod gyda Chyngor Sir Ddinbych am ddefnyddio'r safle, ymgynghori gyda'r gymuned leol a chynnal asesiadau manwl o'r cynlluniau a'r costau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd felodrom Caerfyrddin ei hailagor wedi buddsoddiad o £600,000 yn 2017

Dywedodd y corff eu bod yn gobeithio y bydd y felodrom yn dod yn "ganolbwynt ar gyfer seiclo yn Nyffryn Clwyd".

Ychwanegon nhw y bydd y safle yn addas i seiclwyr o bob gallu, gan "roi'r cyfle i blant ar draws y rhanbarth ddatblygu eu sgiliau fel y gallan nhw seiclo yn ddiogel a chystadlu yn lleol ac ar lefel genedlaethol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gavin Harris ei fod yn "edrych ymlaen at ddatblygu syniadau ar gyfer y felodrom"

Dywedodd Maer Rhuthun, Gavin Harris ei fod "wedi cyffroi" bod y dref wedi cael ei dewis fel y safle sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad.

"Mae Cyngor Tref Rhuthun, gyda chefnogaeth ariannol gan Cadwyn Clwyd, wedi gweithio ar y cyd â nifer o randdeiliaid i symud ymlaen gyda'r prosiect hwn er gwaethaf effeithiau Covid," meddai.

"Ry'n ni nawr yn edrych ymlaen at ddatblygu syniadau ar gyfer y felodrom awyr agored ar safle Glasdir gyda'r gymuned leol."