Canolfan Iechyd Aml Bwrpas gwerth £20m i Benygroes
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith ar fin dechrau i ddymchwel adeiladau mewn hen ddepo bysiau ym Mhenygroes yng Ngwynedd er mwyn ei weddnewid dros y blynyddoedd nesaf.
Y bwriad yw ei ddatblygu yn ganolfan ar gyfer gwasanaethau iechyd fydd yn cynnwys rhai deintyddol, fferyllfa, gwasanaethau ataliol, gwasanaethau cymdeithasol, gofal i bobl hŷn, swyddfeydd, meithrinfa a gofod celfyddydol ar un safle.
Cynllun ar y cyd ydy hwn rhwng Cymdeithas Dai Grŵp Cynefin, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chwmni Theatr Bara Caws. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu miliynau o bunnau tuag at y cynllun.
Dywedodd prif weithredwr Grŵp Cynefin, Shan Lloyd Williams: "Mae gwaith aruthrol wedi bod yn digwydd y tu ôl i'r llenni dros y flwyddyn ddiwethaf, i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Mae'r cynlluniau ar gyfer y cysyniad o greu canolfan iechyd a llesiant cymunedol yn argoeli'n dda.
"Mae ein gwaith ymgysylltu gyda'r gymuned leol i drafod y syniad wedi bod yn gwbl bositif. Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn gan bobl ifanc yr ardal a chan aelodau o'r gymuned ym Mhenygroes, Llanllyfni, Groeslon, Llanwnda, Talysarn a'r Fron.
"Mae'n gynllun pellgyrhaeddol all ddod a budd go iawn i Ddyffryn Nantlle ac i Wynedd, ac mae'r ffaith bod y Gymraeg a diwylliant yn rhan mor greiddiol o'r cynllun yn hollbwysig i'r partneriaid a'r gymuned y bydd hi'n ei gwasanaethu. Byddwn yn gweithio ar brif ddogfen cynllun y prosiect fel cam nesaf yn y broses ddatblygu."
Yn ôl aelod cabinet gofal a dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, y cynghorydd Dafydd Meurig: "Mae'r cynllun yn un cyffrous a blaengar, a'r cyntaf o'i fath yma yn y gogledd. Fel Cyngor, rydym wedi cytuno i fuddsoddi £3.5m i'r gwaith ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r partneriaid i sicrhau'r gyllideb lawn.
"Gyda gwasanaethau allweddol iechyd yn gynyddol cydweithio ar safleoedd fel meddygon lleol, deintyddion a fferyllwyr - mae'r elfen integredig o'r cynllun o fewn y gymuned yn hollbwysig."
Ychwanegodd Wyn Thomas, Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gofal Sylfaenol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae dod â gwasanaethau a gofal yn agosach at gartrefi pobl yn rhan ganolog o weledigaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn y dyfodol.
"Bydd y datblygiad ym Mhenygroes yn ganolbwynt ar gyfer gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd cymunedol yn yr ardal, yn ogystal â gwasanaethau gan ein partneriaid, o dan yr un to.
"Mae'r datblygiad yn rhoi cyfle i Feddygfa Corwen House, sy'n gwasanaethu'r ardal, gael mynediad i adeilad modern gan weithio'n agos gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill er budd eu cleifion.
"Rydyn ni wedi gweld llwyddiant mawr gyda datblygiadau tebyg mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at ddatblygu mwy o gynlluniau manwl dros y misoedd nesaf."
Mae ardal Penygroes wedi cael ergyd yn ddiweddar gyda 90 o bobol yn colli eu swyddi yno mewn ffatri cynhyrchu papur toiled.
Un sy'n edrych ymlaen at y datblygiad newydd ydi'r cynghorydd lleol yn Nyffryn Nantlle, Craig ab Iago. Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw bod 'na nifer o bethau cyffrous yn digwydd yn yr ardal:
"Fel arfer da ni'n dueddol o fod yn y wasg oherwydd pethe drwg ond y gwir ydy fod hyn yn amser cyffrous iawn i ni yn Nyffryn Nantlle," meddai.
"Wrth gwrs de ni efo'r Ganolfan Newydd Llesiant a Iechyd, de ni efo'r Unesco bid, mae'r banc tu ôl i mi a siop Griffiths, Coleg Llandrillo Menai, y Co-Op newydd. Mae 'na gymaint o bethau cyffrous, diddorol, arloesol yn digwydd yn yr ardal yma ac mae'r ganolfan yma yn mynd i ychwanegu at hynny a jyst dangos bod Dyffryn Nantlle yn lle da i fyw."
Y gobaith ydi y bydd y ganolfan newydd iechyd a lles yn agor ymhen tair blynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2019
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019