Mwy o wledydd ar y rhestr hunan ynysu

  • Cyhoeddwyd
awyren

Yn yr adolygiad diweddaraf o coronafeirws, mae'r Gweinidog Iechyd wedi ychwanegu pedair gwlad at y rhestr lle mae gofyn i bobl hunan ynysu.

Mae adolygiadau'n digwydd yn gyson ers i'r rheoliadau gael eu cyflwyno yng Nghymru ar 10 Gorffennaf.

Wedi'r adolygiad diweddaraf cafodd Curaçao, Denmarc, Gwlad yr Iâ a Slofacia eu tynnu o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio, a bydd rhaid i bobl sy'n teithio i Gymru o'r gwledydd hynny hunan ynysu am bythefnos wedi iddyn nhw gyrraedd Cymru.

Aeth datganiad Mr Gething ymlaen i ddweud: "Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio'r rheoliadau ymhellach drwy ychwanegu eithriadau sectoraidd newydd ar gyfer timau cynhyrchu ffilmiau hysbysebu a chategorïau o bobl sy'n cymryd rhan chwaraeon elît a'u staff cymorth, gan gynnwys timau meddygol. Bydd digwyddiadau'n cael eu hychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig."

Bydd y cyfyngiadau teithio newydd yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn, 26 Medi.