Apêl i yrrwr car wedi marwolaeth seiclwr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Car gwynFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu eisiau siarad gyda gyrrwr car gwyn Seat Ibiza gafodd ei weld yn yr ardal ar y pryd

Mae'r heddlu'n apelio yn dilyn digwyddiad ble fu farw tad i ddau o blant ar ôl iddo ddod oddi ar ei feic.

Bu farw Huw Wright, 43, yn dilyn y digwyddiad yn ardal Draenen Pen-y-graig (Thornhill), Caerdydd ar 15 Medi.

Cafodd ei ganfod ar y ffordd ger cylchfan wrth ymyl yr amlosgfa ac mae'n ymddangos ei fod wedi oddi ar ei feic.

Mae'r heddlu eisiau siarad gyda gyrrwr car gwyn Seat Ibiza a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd.

Dywed Heddlu'r De fod y car yn un arbennig am fod ganddo ddrych du ar ochr y gyrrwr ond un gwyn ar yr ochr arall.

Mae swyddogion hefyd yn apelio i ddyn wnaeth stopio ger y safle a siarad gydag aelodau eraill o'r cyhoedd i gysylltu gyda nhw.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei 40au, pryd tywyll, tew, 5 troedfedd 10 modfedd ac yn gwisgo dillad tywyll.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru trwy ffonio 101.