Sbectol rithwir yn helpu pobl sy'n hunan-ynysu
- Cyhoeddwyd
Mae sbectol rithwir wedi bod yn helpu pobl sy'n hunan-ynysu i ymgysylltu â chelf yn ystod y cyfnod clo.
Nod y prosiect gan Brifysgol Caerdydd a'r elusen Nesta oedd dod â chreadigrwydd i bobl sydd wedi'u heffeithio'n wael gan gyfyngiadau Covid.
Roedd Su Walls o Bwllheli, artist 85 oed, ymhlith y rhai i gael ysbrydoliaeth trwy wisgo'r sbectol.
Bu'r prosiect hefyd o fudd i bobl fyddar ac anabl i rannu eu bywydau gyda'r byd.
Mae Y Lab, sy'n gyfrifol am y gwaith, yn ganolfan ymchwil ac arloesi.
Dywedodd Rosie Dow, rheolwr rhaglen y celfyddydau a iechyd ar gyfer Y Lab ei bod hi'n "bwysig iawn ein bod yn addasu, a nid yn rhoi'r gorau iddi".
"Felly roedd yn rhaid i ni arloesi ac addasu i'r byd newydd yn eithaf cyflym, ac roedd rhaid gweithio allan sut i wneud hynny, a sut i wirioneddol gefnogi iechyd a lles pobl trwy'r celfyddydau."
Yn 85 oed ac yn gyn-athrawes Saesneg, mae Su Walls hefyd yn arlunydd sydd wedi gorfod byw heb lawer o gyswllt â phobl eraill ers i'r cyfnod clo ddechrau.
Awgrymodd ffrind, a oedd yn rhan o'r prosiect, iddi gymryd rhan. Fe gafodd ddyfais Google Cardboard sy'n troi ffôn clyfar yn sbectol rhithwir.
Mae'r ffôn yn eistedd tu mewn i'r sbectol cardfwrdd, ble mae modd gwylio fideos VR ar y ffôn trwy wefannau fel YouTube.
Dywedodd Su, sydd â stiwdio gelf gartref, fod y prosiect wedi helpu iddi ailafael yn ei chreadigrwydd.
"Roeddwn yn hollol sownd. Fel arfer, rydw i'n gwneud rhywbeth o leiaf unwaith y dydd yn fy stiwdio, ac roeddwn i wedi gwneud wythnosau o ddim byd," meddai.
"Fe wnaeth o wir fy rhyddhau o'r feddylfryd yna, ac rydw i wedi bod yn gynhyrchiol iawn ers hynny."
'Teimlo bach yn sâl'
Roedd rhaid i Su a grŵp o bobl tebyg ymgolli mewn fideos rhithwir oedd yn cynnwys y profiad o fod mewn balŵn ar gyrion awyrgylch y ddaear, neu wrth ochr nant ar fynydd uchel.
"Mae'n brofiad o ymgolli'ch hunain. Fe wnaeth i mi deimlo bach yn sâl hefyd, yn anfoddus, ond efallai wnes i gerdded o gwmpas gormod!"
Fe wnaeth yr holl brofiad ganiatáu Su i ailgysylltu â chelf ar adeg pan oedd ei chreadigrwydd wedi dioddef.
"Ar ôl i mi ddechrau, fe wnaeth y broses wahaniaeth mawr. Mae wedi datgloi'r drws," meddai.
"A hefyd roedd hi'n braf iawn cael rhannu'r gwaith. Ar ôl i mi ddod i'r afael â'r dechnoleg, roedd yn gyffrous iawn mewn gwirionedd."
Roedd Joe Powell-Main yn dod i ddiwedd ei brentisiaeth gyda Ballet Cymru, ac roedd i fod i ymuno â'r cwmni fel dawnsiwr proffesiynol yn fuan, pan ddechreuodd y cyfnod clo.
Mae'r dawnsiwr 22 oed yn defnyddio cadair olwyn, ac roedd eisiau rhannu ei ddawnsio â'r byd.
Fe recordiodd ei hun yn dawnsio a rhannodd y fideo ar-lein.
"Rydw i wedi creu darn byr ynghylch fy angerdd am ddawns. Yn y bôn mae'n ymateb i'r sefyllfa bresennol, ac yn cydnabod bod pethau wedi gorfod newid am y foment," meddai.
"Ond rwy'n credu y byddwn yn dod nôl yn well ac yn gryfach, a dylwn ni ddim anghofio'r celfyddydau, na dawns yn benodol."
'Cyfleoedd newydd'
Yn y fideo mae Joe i'w weld yn dawnsio gartref yn ei gadair olwyn goch, yn gwisgo crys-t coch.
Enw'r fideo yw Y Ddraig, ac roedd am wneud datganiad cofiadwy am alluoedd artistiaid byddar ac anabl.
"Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni ddim yn anghofio bod artistiaid byddar ac anabl yn dal i fod yno, a phan fydd pethau'n agor ychydig yn fwy bydd rhaid parhau i wthio ymlaen i ennill cyfleoedd newydd," meddai.
Er y bydd ymchwilwyr yn astudio llwyddiant y prosiect, dywedodd y trefnwyr y gallai'r cynllun redeg eto wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu hailgyflwyno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2020