Cosbi cyn-athro fu'n siarad â phedoffeil ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-athro a fu'n sgwrsio ar-lein â phedoffeil, gan gredu ei fod yn ferch 18 oed, wedi'i gael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Roedd Dylan Wyn Roberts yn athro celf, dylunio a thechnoleg yn Ysgol Brynrefail yn Llanrug, ger Caernarfon.
Cafodd ei ddiswyddo ar ôl i'r mater ddod i'r amlwg ac nid yw bellach yn dysgu.
Derbyniodd Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) ei fod yn ddigwyddiad unigol.
Ni chafodd Mr Roberts ei dynnu oddi ar y gofrestr dysgu ond derbyniodd gerydd, a fydd yn aros ar ei record am ddwy flynedd.
'Wedi bod yn yfed'
Clywodd y pwyllgor iddo gael ei arestio ym mis Tachwedd 2016 ar amheuaeth o fod yn rhan o "weithgaredd ar-lein amhriodol a throseddau rhyw plant posib" yn 2014.
Ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu cyflwyno yn ei erbyn gan yr heddlu.
Ond fe gafodd ei ddiswyddo yn dilyn ymchwiliad annibynnol gan yr ysgol yn 2018.
Clywodd y pwyllgor bod Mr Roberts wedi sgwrsio â throseddwr rhyw o Sir Efrog, ac ar ôl ychydig symudodd y sgwrs ymlaen at faterion rhyw.
Esboniodd Mr Roberts ei fod wedi bod yn yfed ar y pryd ac yn mynd trwy gyfnod llawn straen yn ei berthynas gyda'i bartner.
Gan egluro'r rhesymau dros orfodi'r cerydd yn lle ei dynnu oddi ar y gofrestr dysgu, dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Robert Newsome, nad oedd y digwyddiadau yn 2014 wedi eu hailadrodd ers hynny.
Roedd Mr Roberts yn uchel ei barch, meddai, roedd ei reolwr llinell wedi ei ddisgrifio fel "model rôl gwych", roedd wedi dangos arwyddion o edifeirwch ac roedd wedi ceisio cymorth proffesiynol.
"Mae'r risg o ailadrodd yn isel os bydd Mr Roberts yn dychwelyd i'r proffesiwn," meddai Mr Newsome.