Darlithoedd wyneb yn wyneb i ail-gychwyn yn Aber

  • Cyhoeddwyd
Aberystwyth University

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn ail-gychwyn dysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf.

Ddydd Llun cyhoeddodd y brifysgol eu bod wedi atal addysgu wyneb yn wyneb am y tro ar ôl i achosion o Covid-19 gael eu darganfod ymysg myfyrwyr.

Mae dros 8,000 o fyfyrwyr wedi bod yn cyrraedd Aberystwyth dros y pythefnos diwethaf, gan fwy neu lai dyblu poblogaeth y dref.

Nos Fercher cyhoeddodd y brifysgol y bydd darlithoedd arferol yn dychwelyd, a bod y penderfyniad wedi derbyn cymeradwyaeth partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel rhan o drafodaeth ffurfiol am y cynnydd diweddar mewn achosion yng Ngheredigion.

Yn dilyn y trafodaethau, mae'r brifysgol wedi dweud y bydd rhywfaint o weithgareddau ôl-raddedig wyneb yn wyneb yn digwydd yr wythnos hon, cyn ail-gychwyn dysgu israddedig yr wythnos nesaf.

Bydd dysgu ar-lein yn parhau'r wythnos hon yn ogystal.

'Angen addasu'

Dywedodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure: "Rwy'n hynod o falch o dderbyn cefnogaeth unfrydol ein holl bartneriaid i gyflwyno dysgu wyneb yn wyneb ar y campws yn unol â'r cynlluniau manwl yr oedden ni wedi'u gwneud.

"Byddwn ni'n parhau i sicrhau mai diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a'r gymuned ehangach yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y ffordd mae partneriaid lleol, rhanbarthol a cenedlaethol wedi gweithio'n gyflym gyda ni er mwyn adnabod y peth gorau i'n myfyrwyr eu gwneud ar hyn o bryd yw cymryd rhan yn llawn yn eu gweithgareddau dysgu.

"Er bod y mesurau yr ydym yn eu cymryd ar y campws wedi derbyn cefnogaeth lawn, mae'n rhaid i ni barhau i bwysleisio ar bawb na ddylen nhw gymryd hwn fel arwydd bod bywyd yn mynd i barhau yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno.

"Rydyn ni wedi pwysleisio'n barhaus wrth ein myfyrwyr a'n staff sut mae angen iddynt addasu yn unol â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru."