Brexit...be' sydd am ddigwydd nesaf?

  • Cyhoeddwyd
brexitFfynhonnell y llun, Getty Images

Gydag amser yn mynd yn brin i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyrraedd cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru Cemlyn Davies sy'n egluro'r camau nesaf a beth allai ddigwydd os nad oes cyfaddawdu.

Mae bywyd heddiw'n wahanol iawn o gymharu â blwyddyn yn ôl. Tybed faint o'r arweinwyr ym Mrwsel fis Hydref diwethaf ar gyfer uwchgynhadledd dyngedfennol arall ar Brexit fyddai wedi gallu dychymygu'r newid byd oedd i ddod wrth i Covid-19 symud o un wlad i'r nesa.

Ac eto pan ddaw hi at Brexit ychydig iawn sydd wedi newid mewn gwirionedd. Ydyn, rydyn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn ond ar y cyfan mae'r hen drefniadau yn eu lle o hyd.

Ac yn union fel yr oedden ni ddeuddeg mis yn ôl, dyma ni unwaith eto'n paratoi ar gyfer uwchgynhadledd fawr arall ym Mrwsel yn wynebu'r posibilrwydd o ddiffyg cytundeb rhwng Llundain a Brwsel, ac yn clywed pob math o rybuddion am beth allai hynny ei olygu. Plus ça change.

Ffynhonnell y llun, PATRICK HERTZOG
Disgrifiad o’r llun,

Staff yn Senedd Ewrop, Strasbourg, yn tynnu baner y Deyrnas Unedig i lawr

Y llynedd cytundeb ar delerau'r ysgariad oedd yn y fantol; heddiw ceisio cytuno ar y berthynas fydd ganddyn nhw'n y dyfodol mae'r ddwy ochr.

Ac mae'n ras unwaith eto achos yn unol â'r cytundeb cyntaf hwnnw bydd y cyfnod pontio - gychwynnodd wrth i faner y Deyrnas Unedig gael ei gostwng ym Mrwsel fis Ionawr - yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, boed cytundeb masnach yn ei le ai peidio.

Beth fyddai pwrpas y cytundeb masnach?

Byddai'r cytundeb masnach yn gosod fframwaith ar gyfer y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys sut bydd y ddwy ochr yn prynu a gwerthu eu nwyddau, sut y byddan nhw'n cydweithio mewn pob math o feysydd fel diogelwch, a hefyd sut y bydd pobl yn gallu symud nôl a mlaen o fis Ionawr nesa.

Ffynhonnell y llun, Chris J Ratcliffe
Disgrifiad o’r llun,

Michel Barnier, sydd yn arwain y trafodaethau ar ran yr Undeb Ewropeaidd

Beth os na fydd cytundeb?

Y gwir amdani yw bod llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch beth allai hyn ei olygu. Ond os na fydd cytundeb yna bydd masnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn digwydd ar delarau Sefydliad Masnach y Byd (WTO).

Mae hynny'n golygu y bydd tariffs yn cael eu cyflwyno ar bob math o allforion o Brydain sy'n mynd i'r cyfandir, er enghraifft treth bosib o 40% ar gig oen o Gymru.

Y ddadl yw y byddai hynny'n ei dro'n gwneud y cynnyrch yn ddrytach i gwsmeriaid Ewropeaidd ac felly'n llai cystadleuol.

Gyda 92% o holl allforion cig oen Cymru'n mynd i'r Undeb Ewropeaidd, mae undebau amaeth yn rhybuddio byddai diffyg cytundeb yn ergyd fawr i'r diwydiant yma.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Beth fyddai diffyg cytundeb yn ei olygu i'r diwydiant cig yng Nghymru?

Heb gytundeb masnach hefyd byddai angen gwirio mwy o wybodaeth ar y ffîn ac mae yna bryderon gallai hynny arwain at dagfeydd hir ar y ffordd i borthladdoedd fel Caergybi.

Hyd yn oed os oes cytundeb bydd angen gwirio mwy o fanylion nag ar hyd o bryd ac felly mae mwy o oedi'n debygol beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau.

Mae yna rybuddion hefyd y gallai diffyg cytundeb greu mwy o waith papur ac arwain at gostau ychwanegol i bobl sydd eisiau teithio i Ewrop i fyw, i weithio neu hyd yn oed ar wyliau.

Ond er gwaetha'r pryderon sydd gan nifer, mae eraill gan gynnwys Boris Johnson yn mynnu y gall y Deyrnas Unedig ffynnu hyd yn oed os na fydd cytundeb.

Beth yw'r prif feini tramgwydd yn y trafodaethau?

Hawliau pysgota yw un o'r prif feini tramgwydd.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn dal i aros hefyd i'r Deyrnas Unedig gytuno i ddilyn rheolau i sicrhau na fydd busnesau Ewropeaidd o dan anfantais mewn unrhyw ffordd o gymharu â busnesau yma.

Ac mae yna anghytuno o hyd am sut y dylid datrys unrhyw anghydfodau sy'n codi yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae parodrwydd Boris Johnson a'i gabinet yn ddiweddar i geisio mynd yn groes i rannau o'r cytundeb gwreiddiol wedi gwylltio swyddogion ym Mrwsel, gyda rhai'n gofyn nawr oes modd ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Ffynhonnell y llun, Leon Neal
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Boris Johnson a'i Lywodraeth ei feirniadu gan lawer am fynd yn groes i rannau o'r cytundeb gwreiddiol

Pa mor debygol yw hi y bydd cytundeb?

Mae'r ddwy ochr yn mynnu eu bod nhw eisiau cyrraedd cytundeb ond y byddan nhw'n barod hefyd os nad yw hynny'n digwydd.

Mae amser yn brin iawn. Cofiwch hyd yn oed os y daw'r gwleidyddion i gytundeb mae'n rhaid caniatau amser hefyd i gwblhau'r holl waith cyfreithiol fydd angen ei wneud cyn diwedd y cyfnod pontio er mwyn sicrhau bod popeth yn barod erbyn y 1af o Ionawr.

Dyna pam mae Boris Johnson wedi dweud bod yn rhaid cyrraedd cytundeb erbyn yr uwchgynhadledd nesaf ym Mrwsel ar y 15fed o Hydref.

Mae yna draddodiad ym Mrwsel o daro bargen ar yr unfed awr ar ddeg. Bydd yn rhaid i'r traddodiad hwnnw barhau os ydyn ni am weld cytundeb yn dod mewn pryd.

Hefyd o ddiddordeb