Diffyg cynllun arian ôl-Brexit yn 'gwbl annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwr Stephen Crabb wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno manylion ar frys

Mae diffyg eglurder ynghylch beth fydd yn disodli'r arian mae Cymru'n ei gael gan yr Undeb Ewropeaidd pan fydd cyfnod pontio Brexit yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, meddai pwyllgor seneddol.

Dywed Pwyllgor Materion Cymreig Senedd San Steffan bod absenoldeb cynlluniau manwl gan y llywodraeth yn dangos "diffyg blaenoriaeth".

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, y Ceidwadwr Stephen Crabb, mae'r sefyllfa'n "gwbl annerbyniol".

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gweithio ar y manylion ac y bydd pob cenedl yn y DU yn derbyn o leiaf yr un swm o arian â'r hyn a ddaw gan yr UE.

'Ychydig iawn' o gynnydd

Ers blynyddoedd mae Cymru, a rhannau eraill o Brydain, wedi derbyn nawdd gan yr UE i gefnogi datblygiad economaidd.

Mae'r swm y mae pob rhanbarth yn ei dderbyn yn dibynnu ar yr angen, gyda rhanbarthau tlotach yn derbyn mwy o fuddsoddiad.

Ar hyn o bryd mae cyllid Ewropeaidd yng Nghymru werth oddeutu £375m y flwyddyn.

Yn 2017, fe addawodd Llywodraeth y DU y byddai'n creu ei chronfa ei hun i gymryd lle'r nawdd Ewropeaidd.

Ond mewn adroddiad newydd mae'r Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n cynnwys ASau Ceidwadol, Llafur a Phlaid Cymru, yn rhybuddio taw "ychydig iawn" o gynnydd mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud wrth ddatblygu'r Gronfa Ffyniant Cyffredin.

Mae'r adroddiad yn dweud nad yw gweinidogion y DU wedi darparu "unrhyw fanylion sylweddol ynglŷn â'u cynlluniau" a bod sawl mater sydd "heb ei ddatrys" o hyd.

Mae'r ASau yn galw ar y llywodraeth i gynnig sicrwydd ar frys ynghylch y gronfa a sicrhau na fydd arian i Gymru'n dod i ben "yn ddisymwth" ym mis Ionawr 2021.

Maen nhw eisiau i Lywodraeth y DU nodi dyddiad penodol ar gyfer cyflwyno "gwybodaeth gynhwysfawr" ynglŷn â'r gronfa, gan gynnwys ei strwythur a sut y bydd yn cael ei hariannu a'i gweinyddu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn derbyn tua £375m y flwyddyn gan yr UE ar gyfer prosiectau mawr

Mae'r pwyllgor yn dweud y dylai maint y gronfa "fod yn seiliedig ar anghenion a dylid cynnal y swm presennol mewn termau real o leiaf".

Mae yna argymhelliad hefyd y dylid gweinyddu'r gronfa ar sail partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig a llywodraeth leol.

'Angen sicrwydd ar frys'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, Stephen Crabb AS: "Wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn sgil effaith pandemig Covid-19, mae'r cyfnod presennol yn un eithriadol - ac yn gyfle unigryw - i ddylunio system nawdd strwythurol a rhanbarthol mwy ymatebol a chymwys.

"Serch hynny, mwy na thair blynedd ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bwriad i ddisodli cronfeydd yr UE a rhoi Cronfa Ffyniant Gyffredin yn eu lle, nid yw union natur y gronfa yn glir.

"Mae hyn yn gwbl annerbyniol.

"Galwn ar y llywodraeth i gyflwyno'i chynlluniau a rhoi sicrwydd ar frys na fydd y nawdd yn dod i ben yn ddisymwth ym mis Ionawr 2021."

Ychwanegodd bod "cyfle i ailosod ac ail-werthuso blaenoriaethau economaidd Cymru" a chreu system i "fynd i'r afael â'r rhesymau dros dangyflawni economaidd Cymru".

'Manylion yn cael eu datblygu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ar ôl dros 40 mlynedd yn yr UE, bydd gennym gyfle i benderfynu sut a ble ry'n ni'n gwario ein harian.

"Bydd Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn cael ei dargedu'n well na Chronfeydd Strwythurol yr UE a byddwn, fel isafswm, yn rhoi'r un swm o arian i bob cenedl a helpu'r DU i ffynnu.

"Mae manylion y rhaglen yn cael eu datblygu a byddwn yn parhau i weithio arno ar y cyd â'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru."