Coronafeirws: 6 marwolaeth a 398 o achosion newydd

  • Cyhoeddwyd
PrawfFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 9,137 o brofion eu prosesu yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi chwe marwolaeth yn ymwneud â Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.

Cyhoeddwyd hefyd ddydd Iau bod 398 o bobl yn ychwanegol wedi cael prawf positif am y feirws.

O'r achosion newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau, roedd 74 yng Nghaerdydd, 51 yn Rhondda Cynon Taf a 25 yn Wrecsam.

Dyw hi ddim yn eglur eto a ydy'r marwolaethau yn rhai o'r wyth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar.

Cafodd 9,137 o brofion eu prosesu yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y bydd rhaid i deithwyr o Dwrci, Gwlad Pwyl a thair o ynysoedd y Caribi -Bonaire, Saba and St Eustatius - hunan-ynysu ar ôl dychwelyd.

Bydd y rheol yn golygu bod rhaid ynysu am bythefnos, ac mae'n dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn.

60% o gynnydd yn nifer y cleifion

Mae nifer y cleifion Covid-19 sydd angen triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cynyddu 60% dros yr wythnos ddiwethaf.

Roedd 550 o gleifion coronafeirws angen gwely ysbyty yn yr wythnos ddiwethaf - 229 o'r rheiny ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Ledled Cymru roedd 34 o gleifion Covid-19 yn cael eu trin mewn unedau gofal critigol ar 29 Medi - bron i ddwbl y ffigwr yn yr wythnos cyn hynny.

Roedd 15 o'r rheiny yng Nghwm Taf Morgannwg, a saith ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Bydd cyfyngiadau pellach yn dod i rym mewn pedair sir yng ngogledd Cymru am 18:00 ddydd Iau - rhai tebyg i'r rheiny sydd eisoes mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r de.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ers dechrau'r pandemig mae 24,383 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru, a 1,622 o bobl wedi marw ar ôl cael prawf positif.

Oedi yn prosesu profion

Dywedodd y corff bod oedi yn prosesu nifer o brofion, ac felly bod y ffigyrau yn "amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru".

"Mae oddeutu 2,000 o ganlyniadau profion (a fydd yn cynnwys canlyniadau positif a negatif) o Labordai Goleudy Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi'u hoedi," meddai Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae hyn yn golygu y bydd nifer y profion heddiw yn amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru.

"Mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

"Mae'n debygol y bydd nifer y profion yn cynyddu'n anghymesur dros y dyddiau nesaf wrth i'r ôl-groniad o ganlyniadau profion gael eu cynnwys yn ein hadroddiadau."