'Ffars' trefnu profion mewn canolfan sydd wedi cau

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau tu allan i uned brofion CwmclydachFfynhonnell y llun, Cynghorydd Gareth Wyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ciwio yn eu cerbydau tu allan i'r uned brofion yng Nghwmclydach

Mae pobl sydd angen profion coronafeirws wedi cael eu hanfon i ganolfan yn Rhondda Cynon Taf sydd bellach wedi cau, yn ôl gwleidyddion Llafur lleol.

Yn ôl yr AS Chris Bryant mae'r sefyllfa yng Nghwmclydach, ger Tonypandy, yn "ffars lwyr".

Cwmni Serco sy'n gyfrifol am y ganolfan ac mae apwyntiadau'n cael eu trefnu trwy system ar-lein Llywodraeth y DU, sy'n goruchwylio trefniadau mwyafrif profion coronafeirws Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd Llywodraeth y DU eu bod wedi cysylltu â phawb oedd wedi trefnu i fynd i'r uned yng Nghwmclydach a chael cyngor i fynd i safle arall yn Abercynon am brawf.

'Gweithio ar hyn fel mater o frys'

Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan wrth BBC Cymru fod uned symudol wedi ei sefydlu yn y lle cyntaf ym Mhorth cyn ei symud i Gwmclydach dair wythnos yn ôl.

Fe gaeodd ddydd Mercher, meddai, wedi gostyngiad yn y galw am gynnal profion, ond roedd y system yn dal i drefnu apwyntiadau i fynd yna ddydd Iau.

"Mae'n ymddangos na wnaethon nhw ei dynnu oddi ar y system fwcio, felly mae cannoedd [o bobl] wedi bod yn troi lan yna - llawer o du hwnt i'r ardal," dywedodd.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg neges Twitter yn dweud bod eu timau'n "gweithio ar hyn fel mater o frys".

Dywed Mr Bryant, AS Rhondda, ei fod yn ddiolchgar i'r bwrdd iechyd a'r cyngor sir am eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r sefyllfa a'i fod wedi cysylltu ag Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock yn ei gylch.

Ond fe ychwanegodd: "Rydym yn teimlo ein bod wedi cael ein siomi'n ddrwg yn y Rhondda ar y foment".

Datrys 'camgymeriad' yn syth

Yn ôl Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU mae "mwyafrif helaeth y cyhoedd yn cael dim trafferthion o gwbl" gyda'r gwasanaeth, er bod y GIG "yn darparu profion ar raddfa ddigynsail - 225,000 y diwrnod ar gyfartaledd dros yr wythnos ddiwethaf".

Mae'r capasiti'n cynyddu'n ddyddiol, medd llefarydd, ac mae disgwyl gallu cynnal 500,000 o brofion bob dydd erbyn diwedd Hydref, wrth i ragor o safleoedd profi agor a threialon "profion cyflym newydd fydd yn gallu rhoi canlyniadau yn syth".

Cafodd "camgymeriad" rhestru safle Cwmclydach ar y dudalen bwcio ar-lein ei ddatrys yn syth pan ddaeth i'r amlwg, meddai, ac fe gafodd pawb oedd wedi trefnu i fynd yna neges yn eu cynghori i gael prawf yn Abercynon.

Dywedodd llefarydd ar ran Serco nad nhw sy'n gyfrifol am reoli'r system fwcio ond eu bod "wedi danfon un o'n tîm i Glydach i ailgyfeirio pobl i Abercynon".