Plaid Cymru'n addo 50,000 o dai a £10 yr awr i ofalwyr
- Cyhoeddwyd
"Byddai 100 niwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru yn fwy radical nag 20 mlynedd diwethaf datganoli" - dyna fydd geiriau yr arweinydd, Adam Price, yn ei araith ger bron cynhadledd rithiol Plaid Cymru nos Wener.
Mae'r blaid yn dweud y bydd hi'n codi 50,000 o gartrefi ymhen pum mlynedd, yn rhoi isafswm cyflog o £10 yr awr i ofalwyr ac yn gostwng treth y cyngor, petai mewn grym.
"Bydd Plaid Cymru yn gosod seiliau ar gyfer newid parhaol," medd Adam Price.
Mae disgwyl i Mr Price nodi yn ei araith y bydd blynyddoedd nesaf Llywodraeth Cymru, petai Plaid Cymru mewn grym, "yn gyfnod o ofal, adeiladu a chreu bywyd da i bawb - bywyd gwell i chi ac i'ch teulu".
Drwy ddiwygio treth y cyngor dywed Plaid Cymru y bydd bil treth cyngor teulu arferol gannoedd o bunnau yn llai.
Mae Mr Price yn addo hefyd y bydd 10,000 o gartrefi y flwyddyn yn cael eu codi gan gynnwys 30,000 cartref cymdeithasol, 15,000 o "dai fforddiadwy i'w prynu" a 5,000 o "dai fforddiadwy i'w rhentu".
Gwasanaeth cymdeithasol am ddim
Fel prif weinidog, dywed Mr Price y byddai hefyd yn cyflwyno "graddfeydd cyflog cyfartal yn y sectorau gofal ac iechyd, ac y byddai'n rhoi codiad cyflog priodol i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sef y tâl y maent wedi bod yn ymgyrchu amdano".
"Byddwn yn rhoi lle teilwng i'r sector gofal, yn creu gwasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei gyllido'n iawn yn y sector gyhoeddus ac un a fydd yn talu cyflogau teg - un a fydd yn talu isafswm o £10 yr awr.
"Fel rhan o'r Gwasanaeth Iechyd a Gofal, bydd gwasanaeth cymdeithasol am ddim i'r sawl sydd ei angen," meddai.
Bydd Mr Price hefyd yn dweud wrth y gynhadledd: "Ry'n ni am fod yn annibynnol, yn rhydd ac yr un mor gyfartal â chenhedloedd eraill ar draws y byd.
"Ond wrth sicrhau cyfartaledd bydd ein llygaid ar nod uwch sef dod yn genedl ein hunain o bobl gyfartal.
"Dyw rheoli tlodi plant, digartrefedd a llygredd ddim yn ddigon," meddai. "Rhaid i ni eu gwaredu yn yr un ffordd ag yr ydym yn ceisio cael gwared o'r feirws."
Mae Plaid Cymru, fel y pleidiau eraill, yn cynnal cynhadledd yr hydref ar-lein oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi'u cyflwyno yn sgil Covid-19.
Roedd y blaid yn ail yn yr etholiad diwethaf yn 2016 wedi iddynt ennill 12 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd, ond 10 aelod sydd gan Blaid Cymru bellach wedi i Dafydd Elis-Thomas adael y blaid a Neil McEvoy gael ei ddiarddel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020
- Cyhoeddwyd25 Medi 2020