Covid: Digalondid pobl ifanc sy'n chwilio am waith

  • Cyhoeddwyd
diweithdraFfynhonnell y llun, Reuters

Mae'r pandemig coronafeirws wedi cynyddu'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc sy'n chwilio am waith, medd un elusen flaenllaw.

Mae arolwg gan y Prince's Trust yn awgrymu bod 44% o bobl ifanc 16-25 oed a gafodd eu holi yn dweud bod eu disgwyliadau bellach yn is.

Dywedodd hanner y rhai o gefndir tlotach bod eu dyheadau am y dyfodol nawr yn ymddangos yn "amhosibl" i'w cyrraedd.

Dywedodd Caitlyn Morgan, 20 oed o Gaerffili, bod ei bywyd bellach wedi ei "oedi".

Ffynhonnell y llun, Caitlyn Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caitlyn Morgan ar gynllun hyfforddi fyddai wedi arwain at swydd cyn i'r pandemig daro

Cyn y cyfnod clo, roedd hi ar gynllun hyfforddi manwerthu yng Nghaerdydd gyda busnes oedd yn bwriadu cynnig swydd iddi pe na bai'r feirws wedi taro.

Dywedodd: "Chi'n gweld faint o bobl sy' nawr yn ddi-waith, nid dim ond pobl ifanc.

"Does gen i ddim cymaint o brofiad a rhai yn y gweithle. Rwy'n llai tebygol o gael swydd.

"Mae'n golygu oedi eich bywyd, ac ry'ch chi'n teimlo'n styc heb unrhyw ffordd o ddod allan."

O dan gynllun Cefnogi Swyddi Llywodraeth y DU - a ddaeth yn lle'r cynllun ffyrlo - bydd y llywodraeth yn talu rhan o gyflog gweithwyr sy'n gallu gweithio o leia' traean o'u horiau arferol.

Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd y cynllun newydd "ond yn cefnogi swyddi hyfyw". Ond mae rhai yn dweud y byddai eu swyddi wedi bod yn hyfyw oni bai am y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Ariane Brumwell
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Ariane Brumwell ei swydd ym mis Awst

Cafodd Ariane Brumwell ei rhoi ar ffyrlo o'i swydd gyda phapur newydd yn y Bontfaen, Bro Morgannwg, ym mis Mawrth.

Yna cafodd glywed ym mis Awst nad oedd y papur newydd bellach yn hyfyw ac y byddai'n cael ei diswyddo.

"Does gen i dim amheuaeth y byddwn i'n dal i weithio oni bai am Covid," meddai.

"Fe wnes i ddechrau ymgeisio am swyddi yr oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw... ond bellach rwy' mewn sefyllfa lle mae gen i filiau i'w talu, a gyda Nadolig rownd y gornel rwy'n ceisio am unrhyw swydd fedrai ddod o hyd iddi.

"O safbwynt dyheadau gyrfa, mae hyn wedi dinistrio fy nghymhelliant i raddau, oherwydd fe wnes i weithio mor galed yn y brifysgol ac i gael swydd mewn newyddiaduraeth yn y lle cyntaf."

'Cynyddu trafferthion'

Philip Jones yw cyfarwyddwr Prince's Trust Cymru, a dywedodd fod y pandemig wedi cynyddu trafferthion ymysg pobl ifanc.

"I feddwl bod dros hanner y bobl ifanc yma'n credu bod eu targedau mewn bywyd nid yn unig yn mynd i fod yn anodd a heriol ond eu bod yn amhosib... mae hynny'n rhywbeth yr ydym angen edrych yn ofalus arno", meddai.

Ychwanegodd fod rhai pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo "datgysylltiad daearyddol" rhwng lle maen nhw'n byw a "lle mae'r cyfleoedd", ac hefyd yn teimlo fod "y cysyniad o lwyddiant yn rhywbeth nad ydyn nhw'n gallu teimlo'n rhan ohono".

Gallwch weld mwy am y stori yma ar raglen Politics Wales ar BBC One Cymru am 13:15 ddydd Sul, 4 Hydref, ac ar BBC iPlayer.