Covid-19: Profiadau da a drwg y cyfnod ffyrlo

  • Cyhoeddwyd
Sunak
Disgrifiad o’r llun,

Nod cynllun ffyrlo y Canghellor, Rishi Sunak, oedd achub swyddi

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod dros 300,000 o weithwyr yng Nghymru wedi eu rhoi ar gynllun seibiant o'r gwaith yn sgil haint coronafeirws.

Yr wythnos ddiwethaf, dangosodd y ffigyrau gwaith diweddaraf y byddai diweithdra yn llawer uwch oni bai am y cynllun ffyrlo.

Mae'r rhai sydd ar gynllun ffyrlo wedi cael 80% o'u tâl - ac mae modd i weithwyr hawlio hyd at £2,500 y mis.

Fis Hydref bydd y cynllun yn dod i ben ac ym mis Medi bydd yn rhaid i gyflogwyr dalu 10% o gyflog staff.

Ond sut brofiad yw bod ar gynllun seibiant wedi bod, a beth am y dyfodol?

Disgrifiad,

'Taswn i'n cael mynd 'nôl i'r gwaith 'swn i yno'n syth'

Profiad Ifan Rhys Jones, 21 oed - sy'n gweithio i Glwb Ifor Bach a chwmni cyflogaeth Teaching Personnel, Caerdydd

"Yn sicr i gychwyn - y mis cyntaf - o'n i'n rili hapus bo fi'n cael fy nhalu i eistedd adre a gwneud gwaith coleg a jyst ymlacio, ond yn y mis a hanner dwetha 'ma, mae'r amser wedi mynd yn slofach a dwi jyst isie mynd yn ôl ati rŵan.

"Dwi'n gwybod os baswn i ddim ar ffyrlo ac yn cael mynd i'r gwaith baswn i'n gallu derbyn lot mwy na beth dwi'n cael ar y funud, a byddai hynny'n bonws i fi fel stiwdant i gael talu rhent a bwyd a pob dim fel 'na.

"Gan fy mod i'n eitha newydd i un o'r swyddi dydy'r ffyrlo ddim yn lot ar gyfer y mis ond dwi'n gwybod os baswn i wedi gallu cario ymlaen efo nhw, byddwn i wedi cael falle £200 yn fwy y mis o leia. Felly byddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fi wrth ddod mewn i'r flwyddyn nesaf yma yn y coleg."

'Fy haf wedi'i ddifetha'

"Unwaith ti'n disgyn mewn i routine o beidio gwneud dim byd, mae'n mynd bach yn ddiflas wedyn ac mae'n gwneud i ti fethu mynd mewn i'r gwaith, a methu beth oedd gen ti cyn y lockdown.

"Mae'r lockdown wedi rhoi stop ar fy haf i yn gyfan gwbl achos o'n i fod hedfan allan i America ddiwedd mis Mai a dod nôl ganol Gorffennaf yn barod i'r seremoni graddio o'r Coleg.

"Ond mae popeth oherwydd Covid wedi cael ei ganslo, popeth wedi gohirio ac yn anffodus doedd dim cyfle i fi fynd i America i weithio am yr haf so dwi bach yn gutted ynglŷn â hynny...

"O berspectif stiwdant, dwi'n mynd mewn i fy mhedwaredd blwyddyn nawr i wneud cwrs TAR a dwi yn poeni bach o ran pa mor aml fyddwn ni'n gallu mynd mewn i'r coleg i gael sesiynau wyneb yn wyneb, pa mor aml fydd stiwdants yn cael mynd allan i leoliadau gwaith.

"Roedd [teimlo'n ynysig] yn ffactor i fi, achos roedd fy ffrindiau coleg i gyd yn byw o leia' ddwy awr i ffwrdd yn y car.

"Roedd e jyst yn brofiad annaturiol i gael, roeddwn yn teimlo'n unig weithiau ond roedd lot o gyfleoedd dros Zoom i gael dal fyny efo ffrindiau, 'da ni wedi bod yn gwneud lot o hwnna dros y misoedd dwethaf."

Disgrifiad,

'Roedd e'n od siarad am 'redundancy' am y tro cyntaf'

Emlyn Jones, 22 oed - gweithio i gwmni Reeco Automation yn y Drenewydd. Nôl yn y gwaith nawr ar ôl cyfnod o 10 wythnos ar ffyrlo.

"Ar gychwyn cyfnod ffyrlo roedd e braidd yn od i fynd adre, a bore dydd Llun yn dod a does dim angen mynd i'r gwaith - wel dy'ch chi ddim yn gallu mynd i'r gwaith.

"Roedd e'n neis i gychwyn er mwyn cael amser i wneud beth bynnag, i wneud jobs y tŷ ac ati ond ar ôl 4 neu 5 diwrnod i mewn i furlough roedd e'n ddiflas braidd. Yn enwedig pan ti'n byw mewn fflat - doeddech chi ddim yn gallu mynd tu allan i'r ardd gefn neu rywbeth, doeddech chi ddim yn gallu mynd allan i joio'r haul, roedd e'n ddiflas braidd.

"Mi o'n i'n cael 80% o'r cyflog arferol - mi oedd o'n neis iawn i gael yr arian yna mewn. Roedd e bron fel gwyliau mewn ffordd, roeddech chi dal yn cael eich cyflog... roeddech chi'n gallu safio lot o arian ond byddai fe hefyd wedi bod yn neis gallu mynd allan i wario'r arian yn y caffis ac yn y blaen, ond roedd popeth wedi cau - dim caffis, dim siopau ar agor, dim byd o gwbwl, yr unig beth roeddech chi'n gallu gwneud oedd mynd ar y we a falle gwneud bach o siopa f'yna.

Cyfnod gofidus ar brydiau

"Roedd yn galed iawn jyst aros adre - dwi'n byw mewn fflat yn Y Drenewydd ar ben fy hun ac ro'n i wedi arfer mynd i gwrdd â phobl ar ôl gwaith a gwneud pethau gwahanol yn y gymuned... wrth ro'n i wedi arfer mynd mas ar nos Wener a chael un neu ddau o beints ond roedd yn hollol wahanol gorfod aros adre.

"Roedd fy mos wedi dweud bod siawns y byddan nhw'n gorfod rhoi rhyw fath o redundancy i fi a byddai'n rhaid i fi fynd off gwaith am hyn a hyn o amser. Mi oedd e braidd yn od siarad am redundancy am y tro cyntaf, felly mi oedd e braidd yn ofidus hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n neis cael sens o routine eto,' medd Emlyn Jones

"Dwi'n teimlo'n eitha lwcus gyda fy swydd i, mae'n job sy'n mynd i fod yn bwysig yn y dyfodol yn enwedig efo robotau.

"'Dan ni wedi sylwi bod mwy a mwy o'n cwsmeriaid ni yn fwy agored tuag at ddefnyddio robotau er mwyn osgoi sefyllfa fel hyn yn y dyfodol.

"Mae 'na lot o bobl wedi colli gwaith ond dwi wedi bod yn lwcus i gael y cyfle i fynd nôl i'r gwaith i gadw'n brysur a chael y sense o routine."