Gweithio nôl yn Subway ar ôl graddio'n y gyfraith
- Cyhoeddwyd
Wrth i fyfyrwyr newydd ddechrau yn y brifysgol yn llawn cyffro, mae gan rai sydd newydd adael y coleg emosiynau gwahanol wrth geisio dod o hyd i waith. Cymru Fyw fu'n siarad efo dwy am realiti graddio yng nghanol pandemig Covid-19.
Mae Erin Bilsborrow newydd orffen pedair blynedd o astudio'r gyfraith ac yn ôl yn gwneud y swydd roedd hi'n ei wneud cyn graddio yn gwneud brechdanau.
Er ei bod yn ddiolchgar bod ganddi waith, mae hi'n teimlo rhwystredigaeth wedi'r holl gostau a gwaith caled i ennill gradd.
Tydi cael mynediad i'r byd gwaith am y tro cyntaf ddim yn hawdd ar hyn o bryd. Wrth i'r economi ddioddef yn sgil Covid-19 mae diweithdra ar gynnydd yn enwedig ymysg y to ifanc. I raddedigion newydd mae hefyd yn anodd cael profiad gwaith di-dâl o fewn eu maes gan fod cymaint o bobl yn gweithio o'u cartrefi a'u swyddfeydd wedi cau.
Gwireddu breuddwyd
I Erin mae'n anodd gwybod sut all hi wireddu ei breuddwyd o weithio ym myd y gyfraith.
"Dwi wedi bod eisiau bod yn gyfreithiwr ers pan ro'n i'n 12 oed," meddai.
"Dwi'm yn gwybod be' ddigwyddodd, ond o'r adeg yna ymlaen dyna oeddwn i eisiau bod. Doeddwn i byth yn meddwl baswn i'n cael y graddau i fynd mewn a doedd gen i erioed back-up plan, ond trwy TGAU a Lefel A dyna oeddwn i eisiau bod."
Ar ôl astudio'n galed fe lwyddodd i gael lle ym Mhrifysgol John Moores gan raddio'r llynedd a symud o Lerpwl yn ôl i Fryngwran a dechrau chwilio am waith.
Ar ôl ymgeisio am tua 20 swydd wahanol, fel cynorthwyydd cyfraith neu waith gweinyddol, yr un oedd y patrwm - unai dim digon o brofiad neu ormod o gymwysterau. Penderfynodd fynd yn ôl i Lerpwl i wneud cwrs ôl-radd yn y gyfraith gan obeithio byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth.
"Nes i orffen ar 28 Gorffennaf a dwi wedi bod yn chwilio am waith ers hynny," meddai. "Dwi dal unai yn under-experienced neu'n over-qualified i bob dim."
Gradd yn waith caled
Erbyn hyn mae hi'n gwneud dwy swydd, sef gweithio mewn caffi ger Bangor a gwneud brechdanau yn Y Fali, y gwaith roedd hi'n gwneud yn ystod gwyliau'r coleg am flynyddoedd.
"Dwi'n licio'r bobl dwi'n gweithio efo nhw a dwi'n licio bod yno," meddai. "Dim y lle ydi'r broblem, y broblem ydi pan nes i ddechrau prifysgol doeddwn i ddim yn disgwyl gwneud yr un peth ar ôl graddio.
"Dwi'n reit frustrated. Dwi'n meddwl mod i'n lwcus mod i efo gwaith o dan yr amgylchiadau, ond ar yr un pryd dwi'n meddwl dwi wedi gweithio mor galed i gael y radd a dwi dal i wneud yr un gwaith ag oeddwn i'n arfer gwneud.
"Roedd y radd cymaint o waith caled, tydi pobl weithiau ddim yn sylweddoli faint o waith ydi o. Ac mae angen talu i fynd i goleg hefyd - a thalu i fyw pan mae rhywun yno."
Draw ym Mhen Llŷn ac mae Gwenno Rice mewn sefyllfa debyg.
Graddiodd mewn Ffrangeg a Sbaeneg o Brifysgol Caerdydd eleni, ac mae wedi bod yn gweithio yn Nefyn dros yr haf yn gweini.
Meddai: "Achos bod y tymor haf wedi dod i ben does 'na ddim gwaith gweini rŵan chwaith - mae tri pyb a dau fwyty a tydi nhw ddim yn edrych am staff.
"Dwi'n licio gweithio tu ôl i far, ac wedi gwneud gwaith gwahanol o'r blaen, ond dwi'n 24 rŵan a taswn i eisiau dechrau meddwl am brynu tŷ, faswn i angen gwaith sy'n talu digon i fedru talu'r morgais - faswn i methu cystadlu efo'r prisiau, yn enwedig ar ôl Covid.
"Cyn i bethau newid mis Mawrth ro'n i'n edrych ymlaen at orffen y coleg. Ro'n i'n gwybod faswn i ddim yn cerdded mewn i'r gwaith perffaith ac yn disgwyl gorfod dechrau o'r gwaelod. Ond mae o wedi bod mor anodd ffeindio rhywbeth sy'n mynd i edrych yn dda ar CV o ran be' dwi eisiau gwneud."
Fe gafodd le yn ddiweddar i fynd ar gwrs yn Madrid er mwyn cael cymhwyster dysgu Saesneg mewn gwlad dramor. Wrth i'r sefyllfa Covid waethygu ym mhrifddinas Sbaen, fe benderfynodd mai aros gartref fyddai'r peth doethaf am rŵan.
"Tydi o ddim yn hawdd mynd adra i fyw ar ôl bod yn annibynnol am gyfnod mor hir," meddai. "Dwi methu hel fy mhac a mynd i fyw yn Manceinion neu Lerpwl i drio cael gwaith heb wybod bod ffordd i gynnal fy hun. Faswn i methu fforddio byw yno heb job.
"Dwi'n gweld swyddi ar LinkedIn - ond ti mewn cystadleuaeth efo cymaint o bobl ac os sgen ti ddim y math yna o brofiad mae'n anodd.
"Hyd yn oed os fyddai Covid heb ddigwydd mae'n anodd cael swydd ar ôl coleg ond mae cymaint o swyddfeydd wedi cau ar hyn o bryd mae'n anodd cael profiad gwaith hyd yn oed."
Fe fyddai Erin hefyd yn fodlon gweithio am ddim i gael profiad ond does dim ar gael ac mae'n poeni am y dyfodol.
Meddai: "Nes i stryglo flwyddyn diwetha' yn trio cael job a doedd Covid ddim o gwmpas adeg hynny felly fydd hi'n anoddach byth rŵan.
"Mae yna bobl eraill allan yna sydd efo gradd ac sydd efo profiad hefyd a tydi nhw ddim yn gallu ffeindio job chwaith, felly pwy fyddai'n rhoi gwaith i fi?"
Ond i Gwenno, mae'n bwysig cofio bod 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i'r arfer: "Ti'n gorfod cofio tydi o ddim yn amser neis i neb, a paid a rhoi pwysa' ar dy hun a theimlo'n fethiant am beidio ffeindio dim byd. Mae 'na bethau sydd jest allan o dy reolaeth."
Hefyd o ddiddordeb: